Crist 197, pryd y daeth yr ymherawdwr a elwid Sefer a llu mawr iawn ganddo trosodd i Frydain, sef agos i gan mil rhwng meirch rhyfel a gwŷr traed, gan lwyr fwriadu cwbl ddifetha cenedl y Brutaniaid oddiar wyneb y ddaear. Canys nid hwyrach ag y tiriodd, efe a roddes orchymyn idd ei sawdwyr mewn pennill allan o hen brif fardd,—
"Na edwch Fritwn yn y wlad, ond lleddwch oll i gyd!
Gwryw a benyw, mawr a bach, difrodwch oll ynghyd."
Ond er gwaetha hyn o fygwth i daro braw a'u digalonni, fe gafas ei wala o waith i ddarostwng pob man dan ei lywodraeth. Am y rhan fwyaf, digon gwir, a hwy wedi cael ond gormod prawf eisioes o ddyhirwch rhyfel, ac yn enwedig wrth ystyried nad oedd e ddim sarhad na chywilydd i'r Brutaniaid ymostwng i dalu teyrnged pan oedd yr holl fyd,—hynny yw, y rhan fwyaf o'r byd adnabyddus y pryd hwnnw,—dan awdurdod y Rhufeiniaid, ac yn eu cydnabod yn feistriaid; am hynny, meddaf, y danfonasant genadwri at yr ymherawdwr, ar fod yn wiw ganddo alw yn ol a diddymu y gorchymyn gwaedlyd a roddes efe o'r blaen idd ei filwyr, ac y byddent hwythau wedyn yn ddeiliaid ffyddlon iddo. A'r ymherawdwr yno, ar ol cael deuddeg o ben—goreuon y deyrnas yn wystlon ar iddynt gyflawni eu gair, a'u derbyniodd idd ei ffafr, ac ar hynny y gwnaethpwyd Iamodau o heddwch rhwng y ddwy genedl.
Ond er i'r rhan fwyaf o'r deyrnas gymeryd llw o ufudddod, eto yr oedd miloedd o rai cyn-