dyn, a Merfyn Frych Wynebglawr yn bencapten arnynt, nad ymostyngent ar un cyfrif i lywodraeth pobl pellenig, er gwaetha eu holl gadernid a'u bygythion; oblegid hwy a gilient i'r anialwch a'r corsydd, lle nid allai y Rhufeiniaid ddim eu canlyn heb berygl bywyd; a phrin gellid eu newynu chwaith, oblegid fod ganddynt ryw damaid gymaint a ffaien a gadwent yn eu geneuau, a fwriai ymaith chwant bwyd. Ond o fesur ychydig ac ychydig hwy a ddofwyd, ond nid heb golli llawer o waed o bob ochr. Ond nid ymddiriedodd yr ymherawdwr fyth iddynt; canys efe a'u danfonodd hwy y tu arall i'r clawdd, yr hwn a adgyweiriodd efe o fôr i fôr, ac a'i gwnaeth yn gadarnach o lawer na'r hen glawdd, er nad oedd e eto ond o dyweirch a pholion, ac a enwir hyd heddyw Gwal Sefer; am ba un y cân hen fardd fel hyn,—
Gorug Seferus waith cain yn draws dros ynys Frydain,
Rhag gwerin gythrawl, gwawl fain."
Dyn dewr calonnog oedd Sefer, ac a gadwodd, tra bu efe yn teyrnasu, bob peth yn wastad ac yn heddychlon. Efe a fu farw flwyddyn yr Arglwydd 213 yng Nghaer Efrog; a'r geiriau diweddaf a ddywedodd efe ar ei wely angau oeddent,—"Mi a gefais yr ymherodraeth yn llawn terfysg a helbul, ond wele bob peth yn awr yn dangnefeddus, ie hyd yn oed ymysg y Brutaniaid eu hunain."
Ni bu dros amryw flynyddoedd wedyn ddim rhyfel, oddieithr ambell ergyd chwyrn, ac ambell sen chwimwth draw ac yma,—y Rhu-