feiniaid oedd yn awr yn feistriaid, ac odid fod gwas lifrai drwy gydol y deyrnas onid oedd yn deall ac yn siarad Lladin yn ddifai ddigon.
Yn y flwyddyn 228 y gwelwyd, ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr, seren y gynffon yn estyn ei phelydr megis tân llachar, yn ofnadwy ac yn aruthrol ei ganfod; a'r haf dros dair blynedd ar ol hynny oedd mor wlybyrog, fel nad addfedodd nac ŷd na ffrwythau coed, yr hyn a barodd ddrudaniaeth, haint, a newyn; y bara oedd afiach, ac hyd y mae hanesiaeth yn mynegi, hon oedd y waith gyntaf, er digwydd yr un farnedigaeth amryw brydiau wedi hynny, o'i alw y bara chwydog; oblegid nid oedd e ddim yn dygymod â chorff dyn, ond ei chwydu allan drachefn, er fod y werin druain yn eu gwanc a'u newyn yn gorfod ei fwyta, er ei saled. Ond yng ngauaf y drydedd flwyddyn y bu durew parhaus o ganol Tachwedd i ddechreu Chwefror, a haf rhadlon tymherus ar ol hynny, yr hyn, trwy fendith Duw, a ddygodd lawndid a digonolrwydd o bob dim i'r trigolion drachefn.
Y pryd nesaf y mae dim crybwyll am helynt y Brutaniaid, sydd o gylch y flwyddyn 286, ym mha amser, gŵr a elwid Caros, yr hwn oedd o dylwyth gwael, eto yn filwr gwych a dewr, a anfonwyd o Rufain yn ben ar ddeugain o longau, i gadw ymaith y Ffrancod a'r Saeson, y rhai oeddent yn diffeithio y wlad a elwir yn awr yn Ffrainc, ond y pryd hwnnw y Gelli; canys pigladronach a gwibiaid oedd y ddwy genedl honno ar y cyntaf, megis haid o gacwn neu wenyn ormes yn ymwthio i gwch yn Ilawn o fêl. Yna Caros a ymddygodd yn wrol—wych, gan ddarostwng hyd lawr y crwydedig-