Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/67

Gwirwyd y dudalen hon

yr ymddiriedodd, a elwid Alectus. A hwn hefyd a drawsfeddiannodd y wlad dair blynedd, ac yno a laddwyd gan Fran ap Llyr, yr hwn a deyrnasodd chwe inlynedd, ac yno a laddwyd gan Coel Codebog, Iarll Caerloyw; a'i fab Caradoc aeth i Wynedd, lle y claddwyd Bronwen chwaer ei dad mewn bedd petrual ar lan Alaw yn ynys Fôn; a chwedi marw Caradoc, gwnaethpwyd ei fab Eiddaf yn Rhaglaw Prydain gan Gystenyn Fawr, ei gefnder, fel y danghosaf isod.

Dyddiau blin oedd y rhai hyn; pan, pe lyma y byddai cleddyf gŵr, mwyaf i gyd fyddai ei awdurdod a'i feistrolaeth. Ond ar hynny y daeth trosodd i Frydain dduc anrhydeddus a elwid Custeint, yr hwn a fu yn emprwr yr holl fyd ei hun wedyn. Efe a ddaeth trosodd mewn amser da, canys efe a achubodd y brif ddinas Llundain rhag ei llosgi a'i hanrheithio gan y Ffrancod, y rhai yn yr anhrefn a'r afreolaeth uchod, y gwŷr mawr yn ymrannu ben ben—oeddent yn chwilenna draw ac yma am ysglyfaeth; megis pan fyddo dau waedgi yn tynnu llygaid eu gilydd am olwyth o gig, heb fod well oddiwrtho; y mae corgi taeog yn dyfod heibio, yn myned ymaith â'r golwyth, ac yn gadael y ddau golwyn i wneuthur heddwch gan eu pwyll.

Mawr oedd gorfoledd y Brutaniaid, a'u diolchgarwch i Gusteint, am eu hachub o grafangau plant annwn, y Ffrancod. Bathwyd arian yn Llundain er anrhydedd iddo, a gosodwyd ar y naill wyneb ei ddelw ef, ac ar y wyneb arall teml rhwng dau eryr, gan arwyddocau wrth hynny, mae'n debygol, fod eu braint eglwysig yn ddiogel dan ei nawdd ef; canys ei fod efe yn ffafrio y Cristnogion, ac yn gwneu-