thur mwy cyfrif o honynt nag o neb ereill, sydd eglur ddigon oddiwrth yr hanes nodedig hon o'i fywyd. Meddyliodd ynddo ei hun i gael profiad hollol pa un ai Cristnogion cywir ai rhagrithwyr oedd swyddogion ei lys; canys Cristnogion gan mwyaf oeddent oll. Felly efe a'u galwodd hwy oll ynghyd, ac a ddywed wrthynt mai ei ewyllys oedd y cai y sawl a aberthai i'r duwiau gadw ei fraint, ac aros yn y llys; ond y cai y sawl nad ymostyngent i hynny ymadaw o'i wasanaeth ef. Ar hynny y Cristnogion cywir, gan oblygu eu pennau, a aethant allan; ond y rhagrithwyr a arosasant gyda'r ymherawdwr, ac a ddywedasant eu bod hwy yn fodlon i aberthu. Ac yno yr ymherawdwr a barodd alw i mewn y rhai aethent allan, ac a'u gwnaeth hwy yn ben-cynghoriaid; ond efe a ymlidiodd ymaith y rhagrithwyr, gan farnu yn uniawn na fyddai y cyfryw rai ag oedd fradychus i Dduw fyth yn ddeiliaid ffyddlon iddo ef.
Erioed ni bu gŵr o Rufain mor anwyl gan y Brutaniaid a Chusteint, ac yntef a'u hoffodd hwythau o flaen un genedl arall; a phrin y gellir gwybod pwy oedd yn caru y naill y llall oreu, ai hwynt—hwy yn eu parch a'u hufudddod iddo ef, a'i yntef yn ei foesau da a'i diriondeb tuag atynt hwythau. Ac fel y sefydlid hedd—wch parhaus rhwng y ddwy genedl, ac i symud ymaith o hynny allan bob llid a chwerwder a digofaint, efe a briododd Elen, y bendefiges lanaf ac oreu ei rhinwedd dan haul, merch Coel Codebog, yn awr yn frenin Prydain, a'i wraig Stradwen, merch Cadfan ap Conan, tywysog Gwynedd; ac o'r Elen hon y ganwyd i Gusteint fab a elwir Cystenyn Fawr, y gŵr enwocaf o'r