Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/71

Gwirwyd y dudalen hon

Cyd-dylwyth oedd yn awr gan hynny yn eistedd ar orseddfeinciau Rhufain a Phrydain; am baham ni cheisiodd Cystenyn Fawr ddim arian teyrnged o Frydain, ond rhyw gydnabyddiaeth yn unig mai efe oedd ben: yr oedd ganddo ei wala, yn ymherawdwr Ffrainc, Yspaen, Germania, Eidal, yr Aifft, Mesopotamia, Judea, Capadocia, Phrygia, Pontus, ac Asia. Ac onid oedd hyn ddigon?

Ond i ddychwelyd i Frydain. Eiddaf, wedi heneiddio, ac iddo un ferch yn unig a'i henw Elen, a chwenychai, megis gŵr call, sefydlu y goron yn ei fywyd, rhag bod ymgais am dani, a therfysg ar ol ei ddyddiau ef; a chyngor ei arglwyddi oedd ei rhoddi hi yn briod i garwr iddi a elwid Macsen Wledig, yr hwn oedd o ran ei dad yn Gymro, fab Llywelyn, brawd Coel Codebog; ond o ran ei fam yn Rhufeiniad,—canys Llywelyn a aeth gyda'i nai, Cystenyn Fawr, i Rufain ac a briododd yno,—ac a anwyd ac a fagwyd yn y llys yn Rhufain; ac o ran tad a mam o waed brenhinol, ac am hynny a farnwyd yn briod gweddus i Elen, etifeddes y goron. Yr oedd Macsen Wledig y pryd hwnnw yn Rhufain, ac, fel yr oedd gwaetha'r bod, wedi newydd syrthio allan â'r ddau ymherawdwyr, Falentinian a Grasian, am na chai yntef fod yn drydydd. Ac erioed ni bu lawenach ei galon na phan ddaeth y genadwri ato o Frydain, i gynnyg Elen merch Eiddaf yn wraig iddo, ynghyd â choron Lloegr yn waddol gyda hi.

Ond wedi priodi Elen, ni bu efe ddim yn foddlon i wisgo coron Lloegr yn unig,—a pho gwnaethai efe hynny, buasai o goffadwriaeth ddedwydd, ond efe a fynnai fod yn ben ymherawdwr y byd. Eto, i ddywedyd y gwir, nid