ei ryfyg ei hun, ond cariad y milwyr ato, a'i cymhellodd ef, o'i anfodd, i wneuthur yr hyn a wnaeth; ac y mae pawb yn tystio nad oedd wr dan haul yn weddusach i fod yn ymherawdwr, pe buasai ei ditl yn dda; ac er hynny, yr oedd efe yn gâr agos i Elen Lueddawg, mam Cystenyn Fawr.
Ond pa fodd bynnag, cymaint oedd ei barch gyda goreuon y llu, fel y dewiswyd ef yn ymherawdwr, a'i gyhoeddi, nid yn unig ym Mhrydain, ond gan y llu tuhwnt i'r môr hefyd; ac yntau ar hynny, o'i led anfodd, a gymerodd ei berswadio; a rhag bod dim yn rhwystr ar ei ffordd, y fath oedd ei gariad ymhob gwlad, fel yr haerodd llu aneirif o ddewis filwyr y Brutaniaid eu bod yn llwyr fwriadu i sefyll gydag ef, ac na chai dim ond angeu fyth eu gwahanu oddiwrtho; ac yna hwylio a wnaethant i deyrnas Ffrainc.
Y ddau ymherawdwr cyfreithlon, ar hynny, sef Falentinian a Grasian, oeddent yn agos a gorphwyllo, a pheth i wneuthur ni wyddent. Ond tuag at atal eu cyrch ymhellach tua'r Eidal, gwnaethant gyngrair â barbariaid gwylltion o Sythia, y rhai a fuont o'r blaen yn anrheithio gwlad Brydain, ac a'u danfonasant trosodd âg arian ac arfau, a'u hannog i wneuthur pa ddrygau oedd bosibl, sef i ladd, llosgi, a dinistrio hyd ddim y gallent; gan hyderu y dychwelai Macsen ar hynny i Frydain, i achub ei deyrnas ei hun. A phwy allai ddisgwyl llai? Megis haid o frain yn myned allan o'u nythod i chwiliena ac i gipio'r hâd oddiar wyneb y maes; ond digwydd cafod disymwth o gesair, yna hwy a ehedant ar frys i achub eu cywion gartref. Ond Macsen yn awr, wedi ymgaledu