yn ei ddrwg, oedd a'i lygaid ar bethau uwch nag achub ei wlad ei hun rhag y Ffictiaid gormesol,—canys dyna oedd enw y bobl a ddaethant o Sythia,—felly efe a'i wŷr ymlaen yr aethant tua'r Eidal; a phan oedd Grasian, gŵr ieuanc grasol o gylch pum mlwydd ar hugain oed, yn brysio adref i ymweled â'i briod newydd-weddawg, ac efe yn rhydio afon yn ei gerbyd, a syrthiodd i gynllwyn Anarawd Gethin, un o uchel-gapteniaid Macsen, ac a laddwyd; a Falentinian ei frawd, rhag y trinid yntef yn yr un modd, a giliodd ar encil ymhell i Asia tua'r dwyrain.
Wedi bod cyhyd mor llwyddiannus yn eu gwrthryfel, y newydd nesaf, fe all dyn dybied, a fyddai coroni Macsen Wledig yn ymherawdwr, oblegid yn awr fod y ffordd yn rhydd. Ond yma y gwiriwyd yr hen ddiareb, mai drwg y ceidw y diafl ei was; canys, pa un ai ofni y dychwelai Falentinian a llu cadarn o Asia, a bod eu cydwybod yn eu brathu oddimewn; ai hynny, ai beth bynnag oedd yr achos, efe a laddwyd gan ei wŷr ei hun, ynghydag Owen Fin-ddu ei fab. Ac Anarawd Gethin ar hynny a syrthiodd i bwll ar ei ben, yn yr un man ag y cyfododd efe gynllwyn am waed gwirion y gŵr da hwnnw, Grasian. Ac yno holl lu Macsen a wasgarwyd draw ac yma hyd wyneb y gwledydd; ond y rhan fwyaf, ynghyd â'u pen-cadben Conan, arglwydd Meiriadoc, a arosasant gyda'u cydwladwyr yn Llydaw; a hon oedd yr ail waith i'r Brutaniaid wladychu yno, sef o gylch y flwyddyn 383.
Conan ni fynnai ymgyfathrachu â neb ond â'i genedl ei hun; am hynny efe a anfonodd i Frydain am wragedd; a danfonwyd iddo un