Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/74

Gwirwyd y dudalen hon

fil ar ddeg, rhwng merched gwŷr cyfrifol ac ereill o isel radd. Ac fel yr oeddent yn hwylio tua Llydaw, y cyfododd tymest] ddirfawr, fel y boddodd tair o'r llongau; ond y deuddeg diangol a yrrwyd gan gynddeiriogrwydd y gwynt i barthau Llychllyn, ac a ddaliwyd gan y Ffictiaid. Ac yno, ebe'r cronicl, gwedi canfod o'r ysgymun bobl y morwynion, hwy a'u lladdasant. Yr ydys yn cadw dydd gwyl er coffadwriaeth i'r gwyryfon hynny, Hydref 21, ac a elwir Gwyl Seintesau. Ac y mae eglwys yng Ngheredigion a elwir Llan Gwyryfon, a gyfenwyd felly ar ei chysegriad er cof am danynt. Dywedir i Frutaniaid Llydaw ar ol hynny gymeryd merched y wlad honno yn wragedd iddynt; a phan enid plentyn, os gwir yw'r chwedl, pob un yno a dorrai dafod ei wraig, rhag y buasai hi yn difwyno'r iaith, ac yn dysgu i'r plant siarad llediaith.

Nid oedd o gylch yr amser yma yn nhir Brydain ddim ond yr anhrefn mwyaf. Cyhoeddid gŵr yn ymherawdwr heddyw, a thorrid ei ben ef drannoeth i roddi lle i ryw un arall; a chai hwnnw hefyd o fewn ychydig ddyddiau yr un dienyddiad; nid gwiw gosod lawr eu henwau; eto un o honynt, yr hwn oedd yn ddilys o waed brenhinol y Brutaniaid, a haeddai ei goffau, ac a elwid Cystenyn. Heb-law ei hawl i'r goron, dewiswyd ef hefyd er mwyn ei enw, gan obeithio y byddai cyn enwoced gŵr a Chystenyn Fawr, ei gâr. Rhyfelwr enwog oedd y gŵr, ac mor llwyddiannus, fel y bu Ffrainc ac Yspaen a Phrydain dan ei lywodraeth ef dros amryw flynyddau; ac ni bu ond lled troed rhyngddo a bod yn ben ymherawdwr byd, a'i goroni yn yr Eidal. Ond, yng