PENNOD III.
Y Rhyfel rhwng y Brutaniaid a'r Brithwyr.
NID yw'r dysgedig ddim wedi cwbl gytuno arno oblegid cyff-genedl neu âch pobl y Ffictiaid, y rhai a alwid felly, o'r gair Lladin Picti, am eu bod yn britho eu crwyn âg amryw luniau, yn enwedig â math o liw glâs. Ond eu henw yn Gymraeg yn ddilys ddigon yw y Brithwyr; ac felly y galwaf i hwy yn yr ymadrodd a ganlyn.
Tybia rhai gwŷr diweddar mai Brutaniaid gwylltion anfoesol oeddent; neu yn hytrach y cyfryw rai dewrion, y tu hwnt i Wal Sefer yn y gogledd, nad ymostyngent ar un cyfrif dan iau y Rhufeiniaid, a bod yn gaethweision dan eu llywodraeth. Ond yn ol yr hen hanesion, pobl grwydredig bellenig oeddent o Sythia, y rhai a diriasant o gylch y flwyddyn 75 ym Mhrydain, dan Rodri, eu pen-capten, wedi eu gyrru gan y newyn o'u gwlad eu hun. Ac am y mynnai Rhodri a'i wŷr aros yma heb ofyn cennad, heb ddangos dim cydnabyddiaeth, na thâl, na diolch, yno Meuric, un o frenhinoedd y Brutaniaid, a alwodd ynghyd ei lu i wybod beth a allai nerth arfau wneuthur. Ac ar yr ymgyrch cyntaf, pan oedd y fyddin flaen yn dwys ergydio eu saethau, Rhodri a laddwyd ynghyd â hanner ei lu; ac er coffadwriaeth o hynny o oes bwygilydd, y parodd Meuric brenin y Brutaniaid argraffu ar lech y ddau air hyn,—"Buddugoliaeth Meuric" Ar hynny y deisyfodd hanner arall y llu amodau heddwch gan y Brutan-