iaid; ac ar eu gwaith yn taflu i lawr eu harfau ac yn ymostwng, y caniataodd y brenin eu hoedl iddynt, ac a adawodd iddynt gyfaneddu mewn cwr o Scotland, neu Iscoed Celyddon, ymhell tua'r gogledd. Ac yn gymaint nad oedd deilwng gan y Brutaniaid roddi eu merched hwy yn wragedd i'r fath ddynion treigl a'r rhai hynny, yr aeth y Brithwyr hyd yr Iwerddon, ac a gymerasant y Gwyddelesau yn wragedd iddynt; ac o'r cyfathrach hwnnw y tyfodd y fath gyfeillgarwch rhwng y Brithwyr a'r Gwyddelod fel y buont yn wastadol megis elin ac arddwrn fyth wedyn. Ac y mae eu hepil, hyd y dydd heddyw yn siarad Gwyddelaeg. yn byw eto o Prydain Fawr tuag eithaf gwr y gogledd.
Y bobl hyn oeddent fyth yn cynnal yr hen ddefod o fritho eu crwyn âg amryw luniau adar, seirff, a bwystfilod,—dyna oedd eu gwychder hwy—ac o achos hynny a gyfenwyd y Picti, neu y Brithwyr; megis y mae llaweroedd o bobl yr India fyth yn ymdecâu. Heblaw fod yr hen hanesion, ac amryw hefyd o'n pen—ddysgedigion diweddar, yn maentumio mai pobl dreigl o bell oedd y Brithwyr, mi a feddyliais o hyd mai pobl bellenig oeddent wrth y ddefod nodedig hon yn eu chwareuyddiaeth sydd ganddynt mewn amryw fannau o Gymru, yn enwedig ar lan Teifi, yn Neheubarth. Canys yn y gamp, y maent yn ymrannu yn ddwy blaid, dan enw Brithwyr ac Henwyr, y naill yn erbyn y llall. Yr Henwyr yw yr holl rai o'r pedwar enw cynefin, Ifan, Dafydd, Sion, a Siencyn; a'r Brithwyr yw pawb yn ddiwahan o un enw arall pa un bynnag; ac fynychaf y mae'r Henwyr, er ond o bedwar enw, yn ennill y maes. Yn awr wrth Henwyr y meddylir yn ddilys yr hen drigolion