Chwi a glywsoch yn y bennod o'r blaen modd y cododd gan mwyaf holl lu o ieuenctyd y Brutaniaid gyda Macsen Wledig tuag at ei wneuthur yn ben ymherawdwr y byd; ac hefyd fel y darfu i Falentinian a Grasian roddi llongau, arfau, ac arian i bobl Sythia, a'u danfon i Frydain, a'u hannog i wneuthur pa ddrygau oedd bosibl, gan hyderu y dychwelai Macsen Wledig ar hynny adref i achub ei wlad ei hun; ac er eu bod yn Ilu cadarn o honynt eu hunain, eto, rhag na buasai hynny ddigon, gwahoddasant y Saeson a'r Ffrancod i fod yn gynhorthwy iddynt, fel y gallent, os byddai bosibl, lwyr ddifetha cenedl y Brutaniaid, a rhannu'r wlad rhyngddynt. Yn awr, dyma'r amser, sef o gylch y flwyddyn 386, ac o hynny allan, y teimlodd ein hynafiaid hyd adref bwys digofaint y Goruchaf am eu haniolchgarwch yn ei erbyn. Canys dyna bedair cenedl ysgymun a ffyrnig,—y Saeson, y Ffrancod, y Brithwyr, a'r Gwyddelod,—wedi cyfrinachu i dywallt gwaed a difrodi, digrifwch y rhai oedd poenydio, rhwygo, a llosgi dynion, a chyn belled o ddim tosturi a theimlad fel mai'r gerdd felusaf ganddynt a fyddai clywed ocheneidiau a griddfan y lladdedig. Eu bwâu a ddrylliodd ein gwŷr ieuainc, wrth ffrwyth bru ni thosturiasant, eu llygaid nid eiriachasant y rhai bach. Pan oedd pedair cenedl anhrugarog, wedi eu meithrin i dywallt gwaed o'u mebyd, yn ymryson pwy fyddai gieiddiaf i boenydio dynion, megis pedair arthes wancus yn ymgyfrannu wrth ddifa carw, pa dafod a all fynegi y galanasdra a wnaethant, ond yn anad dim pan nad oedd yn y wlad ond prin ŵr wedi ei adael i daro ergyd yn eu herbyn! Y dinasoedd caerog yn wir a ymgadwasant heb nemawr o daraw,
Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/80
Gwirwyd y dudalen hon