yddau ar ol eu herlid y waith hon, oddieithr eu bod yn lladrata gyrr o dda a defaid, a llosgi ambell bentref yn awr a phryd arall, ac yno chwipyn ar gerdded: megis barcut ar gip yn dwyn cyw, ac yna myned ymaith gynted ag y gallo. Ond pan gydnabu y Brithwyr fod y Brutaniaid wedi gadael eu cleddyfau i rydu, a phob math o hurtrwydd wedi eu perchenogi, megis rhai yn dylyfu gên rhwng cysgu a pheidio, yno danfon a wnaethant at eu hen gyfeillion, y Ffrancod a'r Saeson, a'n gwahodd trosodd i wneuthur pen ar bobl ddidoreth a musgrell nad oeddent dda i ddim ond i dwymno eu crimpau wrth bentan ac ymlenwi.
Y Brutaniaid yn ddilys ddiameu, ar hyn o amser, oeddent wedi dirywio yn hagr oddiwrth eu gwroldeb gynt; canys yna, ar waith y Brithwyr a'u cyfeillion yn rhuthro arnynt, nid oedd calon yn neb i sefyll yn eu herbyn, mwy nag a all crug o ddail ar ben twyn sefyll yn erbyn gwth o wynt. Er lleied o wyr arfog oedd y pryd hwnnw ym Mhrydain, eto pe buasent yn galw ar Dduw am ei gymorth, ac yn ymwroli, byth ni fuasai y fath dreigl ladronach ag oedd eu gelynion yn awr yn eu sathru mor ddi-daro, ac heb godi llaw yn eu herbyn. Ond hwynt-hwy, digalonni a wnaethant, ac yn lle arfogi eu hieuenctid a'u hannog i hogi eu cleddyfau, a anfonasant lythyr cwynfannus at eu hen feistriaid y Rhufeiniaid, yn taer ymbil am gymorth i yrru y barbariaid allan o'u gwlad. Prin y gallasent ddisgwyl y fath ffafr y pryd hwnnw, am fod mwy na gwaith gan y Rhufeiniaid gartref, ac hefyd yn eu cof yn ddigon da wrthryfel Macsen Wledig, eto yr ymherawdwr a dosturiodd wrthynt, ac a ddanfonodd leng o wŷr