dewisol, hynny yw, o gylch saith mil, neu, medd ereill, 6,666. Hwyn gynted ag y tiriasant, y chwedl a aeth allan, a chwedl a gynydda fel caseg eira, fod yma bum lleng wedi dyfod, ac ar hynny y Brithwyr, y rhai oeddynt yn anrheithio canol y wlad, a ffoisant y tu hwnt i Wal Sefer i'r anialwch ac i'r Iwerddon; ond y rhai o gylch Llundain a glan Tafwysc a wanwyd â chleddyf y Rhufeiniaid. O gylch oedran Crist 418 y bu hynny.
Ac yno y Rhufeiniaid, fel cynghorwyr da yn hysbysu pethau buddiol er diogelwch y deyrnas, a anogasant y Brutaniaid i adgyweirio bylchau ac adwyau Gwal Sefer, gan hyderu y byddai hynny yn beth rhwystr ar ffordd eu gelynion ciaidd rhag eu merthyru; ac yn ddiameu hi fuasai yn amddiffynfa gadarn, pe ei gwnaethid fel gwal caer o galch a cherrig; ond nid oedd hon ddim ond gwal bridd o fôr i fôr, ac ambell dŵr neu gastell yma ac acw, ac felly ond ychydig lesad i'r hen Frutaniaid rhag rhuthrau eu gelynion; canys prin oedd y Rhufeiniaid wedi dychwelyd adref i'r Eidal, ond wele y Brithwyr ynghyd a'r Gwyddelod yn tirio drachefn o'u coryglau yn aberoedd y gogledd o'r Iwerddon, ac yn difrodi y waith hon, pe byddai bosibl, yn fwy llidus nag o'r blaen. Torasant fylchau yn y clawdd, lladdasant y ceidwaid, llosgasant y trefydd, bwytasant yr anifeiliaid, ond odid yn amrwd, yn eu gwanc a'u cythlwng, megis pan fod cnud o fleiddiaid, wedi eu gyrru'n gynddeiriog gan newyn, yn rhuthro i ddiadell o ddefaid, yno pa lanasdra a fydd ymysg y werin wirion honno! A'r hon a fo mor ddedwydd a dianc fydd a'i chalon o hyd yn ysboncio, ac yn tybied fod blaidd ar ei gwarr, os bydd ond dalen