Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/86

Gwirwyd y dudalen hon

Nid oedd bosibl i'r Rhufeiniaid gymeryd y fath ymdeithiau peryglus hirfaith cyn fynyched ag y byddai eu rhaid wrthynt ym Mhrydain; felly hwy a gynghorasant benaethiaid a chyffredin i fod yn wrol a chalonnog i amddiffyn eu gwlad rhag gwibiaid disperod, nad oeddent mewn un modd yn drech na hwy, pe bwrient ymaith eu musgrellni a'u meddalwch; ac yno, heblaw addysgu eu hieuenctid y ffordd i ryfela a byddino llu yn drefnus, yn lle yr hen wal bridd, rhoisant fenthyg eu dwylo yn gariadus i'r trigolion tuag at wneuthur gwal gerrig deuddeg troedfedd o uchder a wyth o led, ac a adeiladasant amryw gestyll, ychwaneg nag oedd o'r blaen. Yr oedd cymaint o dir rhwng un castell a'r llall ag y clywid cloch o un bwy-gilydd; eu hamcan yn hynny o beth oedd, os y gelynion a diriai, i ganu cloch y castell a fyddai nesaf at y porthladd, fel y clywsai yr un nesaf ato ynte, ac i hwnnw ddeffroi un arall; ac felly o'r naill i'r llall fyned y newydd ar unwaith drwy'r holl wlad i'w rhybuddio i barotoi yn erbyn y gelynion. Ac ar ol gorffen pob peth, y danfonwyd gwys i holl randiroedd Cymru a Lloegr i erchi y pendefigion i Lundain rai dyddiau cyn ymadawiad y Rhufeiniaid adref; a gwedi eu dyfod, Cuhelyn, yr archesgob, a bregethodd yn y wedd hon,—

"Arglwyddi," eb efe, "archwyd i mi bregethu i chwi; ys mwy i'm cymhellir i wylo nac i bregethu, rhag truaned yr amddifadrwydd a ddamwaeniodd i chwi, gwedi yspeilio o Facsen Wledig ynys Brydain o'i marchogion a'i hymladdwyr. Ac a ddiengys o honoch chwi, pobl anghyfrwys ydych ar ymladd, namyn ych bod yn arferedig i ddiwyllio daear yn fwy nag yn