dysgu ymladd. A phan ddaeth ych gelynion am ych pennau, ych cymhellasant ar ffo, megis defaid heb fugail arnynt, gan na fynasoch ddysgu ymladd. Ac wrth hynny, pa hyd y ceisiwch bod gwŷr Rhufain yn un â chwi, ac ydd ymddiriedwch ynddynt rhag yr estron genedl ni bo dewrach na chwi, pei ni adech i lesgedd i'ch gorfod? Adnabyddwch bod gwŷr Rhufain yn blino rhagoch, a bod yn edifar ganthynt y gyfnifer hynt a gymerasant ar fôr ac ar dir drosoch maent yn dewis yn wastad yn ymladd; ac y maddeu eu teyrnged i'wch weithian, rhag dioddef llafur cyfryw a hwnnw drosoch bellach. Pei byddech chwi yr amser y bu y marchogion yn Ynys Brydain, beth a debygech chwi, a ffoai dynol anian o wrthych? Ni thebygaf i golli o 'honynt eu dynol anian er hynny. Ac wrth hynny gwnewch megis y dyly dynion wneuthur; gelwch ar Grist, hyd pan roddo efe lewder iwch a rhydd—did." Ac yno brysio a wnaeth y Rhufeiniaid tuag adref i'r Eidal, a dywedasant wrth y Brutaniaid i ymwroli os mynnent; ac onide, arnynt hwy y disgynnai pwys y gofid, canys ni wrandewid eu cwyn mwyach yn Rhufain.
Dros o gylch tair blynedd y bu tawelwch yn y deyrnas ar ol hyn; canys rhwng bod y Brutaniaid ryw ychydig ar eu disgwylfa, a'u llygaid yn neffro; a rhag ofn fod gwŷr Rufain wedi cymeryd y wlad dan eu hymgeledd, y Gwyddel gyflachawg, a'r Brithwr blewog yntef, a arosasant yn llonydd yn yr Iwerddon, a'r ynysoedd o amgylch. Ond ymhen ychydig amser, sef o bob tu'r flwyddyn 425, y tiriasant drachefn yn Ynys Fôn; a'r Saeson hwythau, megis cynifer barcutan yn gwibio am ysglyfaeth, a heidiasant