o gylch yr un pryd oddeutu Kent a'r wlad oddiamgylch; a rhwng y naill a'r llall y mae'n hawdd i undyn farnu pa gyflafan a thywallt gwaed oedd agos dros wyneb y deyrnas, ond yn anad un lle tua Llundain a Gwynedd. Yr oedd gwaith y barbariaid hyn yn difrodi, yn ddilys yn farnedigaeth drom; ond drwg fuchedd yr hen Frutaniaid a haeddai chwaneg eto. Canys o gylch yr amser hwn y tramwyodd i Frydain heresi Morgan, nid ganddo ef ei hun, oblegid ei fod efe y pryd yma tua Chaersalem, ond gan rai o'i ddisgyblion; a hi a bregethwyd yn ddirgel mewn teios, ac a ddadymchwelodd ffydd aneirif o'r werin anwastad, y rhai ni sefydlwyd yn egwyddorion crefydd. Ergyd ei athrawiaeth oedd gan i Iesu Grist foddloni cyfiawnder Duw dros bechod dyn, y gallai pob Cristion foddhau Duw, a bod yn gadwedig, heb nerth ei ras ef. Ac yma, mae'n debygol nad oedd Brutaniaid yr oes honno ddim hyddyscach yn yr Ysgrythyrau nag oeddent i drin arfau rhyfel. Canys fel ag y danfonasant o'r blaen i'r Eidal am borth yn erbyn eu gelynion, y Brithwyr, felly hefyd yn awr yr anfonasant at eu cymydogion yn Ffrainc i ddeisyf cymorth eu gwŷr dysgedig i wrthbrofi heresi Morgan. Ac ar hynny y daeth trosodd ddau esgob rhagorol, sef Garmon a Lupus, y rhai, drwy awdurdod yr Ysgrythyr, tystiolaeth y brif eglwys, a chadarn resymau duwinyddiaeth, a amddiffynasant mor wrol y ffydd gatholig, fel y cydnabu pawb fod Duw gyda hwy, er cywilydd a gwarth i'r gwrthwynebwyr, a chysur tra mawr i'r iawn-ffyddiog.
Ond y gelynion, y Brithwyr, y Gwyddelod, a'r Saeson, oedd o hyd yn y wlad yn difa ac yn difrodi mewn rhyw gwr neu gilydd yn was-