tadol. Yr oedd câd ar faes gan y Brutaniaid hwythau, eto yn ofnus a meddal galon, yr hyn pan gydnabu y ddau esgob, Garmon a Lupus, hwy a ddywedasant," Na feddalhaed eich calon, na synnwch, ac na ddychrynnwch rhag eich gelynion, nyni a fyddwn yn flaenoriaid i chwi, a'n porth fydd yn y Duw byw, Arglwydd y lluoedd. Ac yno wedi cael hyspysrwydd am gyrchymdaith y gelynion, yr esgobion a roisant orchymyn i'r fyddin am orwedd mewn dyffryn coediog, ac na syflent oddiyno hyd oni ddelai y gelynion heibio; a pheth bynnag a welent hwy hwynt-hwy yn ei wneuthur, gwnelent hwythau yr un modd. Ac ymhen ennyd fechan, wele y Brithwyr, &c., yn troedio trwy'r dyffryn; a chododd y ddau esgob ar eu traed ac a waeddasant,—" Aleluia, Aleluia, Aleluia." Ac ar hynny, dyma'r milwyr eu gyd, un ac arall, yn neidio'n chwipyn ar eu traed, gan lefain o nerth pen, Aleluia," gyda'r fath floedd nes oedd y dyffryn yn dadseinio oll. A dododd hynny y fath arswyd a braw yn y Brithwyr megis ag yr aethant oll ar ffo; a boddodd llawer iawn o honynt wrth eu gwaith yn brysio drwy Alun, afon ag sydd yn ffrydio drwy'r dyffryn. Digwyddodd y frwydr hon ryw ychydig ar ol gwyl y Pasg, o gylch y flwyddyn 427, yn agos i Wyddgrug, yn rhandir Fflint, a'r lle hwnnw a elwir Maes Garmon hyd heddyw.
Ar ol hyn y peidiodd hyfder y Brithwyr a'r gwibiaid ysgeler ereill dros ennyd; canys cyhyd ag y bu y Brutaniaid yn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrygioni, cyhyd a hynny yr arhosodd y gelynion gartref; ond pan ddechreuasant anghofio Duw a'i addoli, yno y gelynion hwythau a barotoisant i ymweled â hwy drachefn. Er fod