ni allodd y Rhufeiniaid ond dymuno yn dda iddynt, a phrin oedd hi bosibl iddynt eu cynorthwyo chwaneg, am fod yr ymherodraeth yn llawn terfysg a gwrthryfel ymhob man; megys hen balas wedi adfeilio, bob cymal yn siglo, a'r trawstiau oll yn ysboncio ar uchaf awel o wynt rhyferthwy.
Yn y cyfamser yr oedd y newyn yn dost ym Mhrydain; canys heblaw fod y Brithwyr, fel llwynogod Samson, yn llosgi'r ydau, a phob rhyw luniaeth oddieithr yr hyn oedd gyfreidiol iddynt eu hunain, heblaw iddynt yrru y Brutaniaid ar encil i'r diffaithwch, lle nid allai fod nac âr na medi, heblaw hyn, meddaf, yr oedd y blynyddoedd yn oer a gwlybyrog, yn gymaint ac nad addfedodd yr ychydig a hauwyd; ond er y gorthrymderau hyn oll, y cleddyf a'r newyn, rhai aethant yn gaeth weision i'r Brithwyr er cael tamaid o fara yn eu cythlwng; ereill a ddewisasant drengu yn yr ogofau a chromlechydd y creigiau cyn yr ymostyngent i'r gelynion. Ond ychydig iawn a alwasant ar yr Arglwydd eu gwared o'u cyfyngder a'u cystudd; a phe hynny a wnaethent o galon ddifrifol, ni fuasai raid wrthynt arswydo rhuthr un gelyn; ac byth ni welsent estron—genedl yn trawsfeddiannu eu gwlad, oblegid "tŵr cadarn yw enw'r Arglwydd, ato y rhed y cyfiawn, ac y mae'n ddiogel."
Ond yno ymhen talm, ar ol derbyn y wobr ddyledus idd eu pechodau yn y byd hwn, y gwelodd yr Arglwydd yn dda i gyffwrdd â'u calonnau, a daethant, fel y Mab Afradlon, i bwyll ac ystyriaeth, gan ddychwelyd yn edifeiriol at yr Arglwydd eu Duw. Ac er nad oeddent y pryd hwnnw ond ychydig o drueiniaid meth-