PENNOD IV.
Y rhyfel rhwng y Brutaniaid a'r Saeson.
WEDI dangos eisioes i ba amgylchiadau tosturus y dygpwyd yr hen Frutaniaid. iddynt gan eu llaithder a'u meddalwch, ond yn anad dim gan eu bywyd diras a'u diystyrrwch ar Dduw mi a af rhagof i ddangos eu hynfydrwydd a'u gwallgof y tuhwnt i ddim yn deisyf cymorth y Saeson. Canys yr un a fuasai iddynt osod y blaidd yn geidwad ar yr ŵyn i'w hachub rhag y gedni a gwahodd y Saeson hwythau trosodd i ymladd drostynt yn erbyn y Brithwyr. Ac eto, nid oedd hynny ond y peth y mae Duw yn fygwth yn erbyn anufudddod. "Oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, yr Arglwydd a'th dery di âg ynfydrwydd, ac â dallineb, ac â syndod calon. Ofnent y Saeson o'r blaen megis plant y fall, ac ellyllon o waelod annwn; eto y fath hurtrwydd a'u perchenogent ar hyn o dro, fel y danfonasant genhadon atynt i'w gwahodd hwy trosodd i Frydain i fod o'u plaid i ymlid ymaith y Brithwyr, y rhai nid oeddent mewn un modd yn wrolach pobl na hwynt—hwy eu hunain, pe nis gadawsent i fusgrellni a llaithder eu gorthrechu, megis y dywedodd y Rhufeiniaid lawer gwaith wrthynt.
Ni wyddis ddim, yn dda ddigon, am baham y danfonwyd am y Saeson yma gyntaf, y rhai oedd bobl o Germany gerllaw i Hanover. Dywed rhai fod amgylchiadau'r hen Frutaniaid y pryd hwnnw fel y canlyn. Fe ddisgynnodd coron y deyrnas o iawn dreftadaeth i ŵr graslawn a