elwid Constans, yr hwn a gadd ei ddygiad mewn monachlog, ar fedr ei ddwyn i fyny yn grefyddwr, ac o'r achos hwnnw oedd anghydnabyddus âg arferion y llys ac â chyfreithiau'r deyrnas. Ac o'r achos hwnnw efe a osododd ddistain neu ben—reolwr dano i farnu materion y llys a'r deyrnas. Y distain hwnnw a elwid Gwrtheyrn, a dyn rhyfygus, ystrywgar, a ffals oedd efe; canys ar ol cael yr awdurdod frenhinol yn ei law, ei amcan nesaf oedd cael meddiant ei hun a lladd ei feistr. Felly efe a roddiodd wobr anwiredd i o gylch cant o feibion y fall am iddynt ruthro ar ben ystafell y brenin a'i ladd ef. Ac ar hynny, wedi gwneuthur sen a gogan-gerdd er anfri i Constans, a chaniad o fawl i Wrtheyrn, disgwyl oedfa a wnaethant i ruthro iddo; a'i ladd a orugant, a dwyn ei ben ger bron y bradwr; ac yntau a gymerth arno wylo, er na bu erioed lawenach yn ei galon. Ond i fwrw niwlen o flaen llygaid y bobl, mal y tybid nad oedd ganddo ef ddim llaw yn y mwrdd-dra, efe a barodd dorri pennau y can ŵr hynny a osododd efe ei hun ar waith. Ac felly barn rhai yw, i Wrtheyrn wahodd y Saeson i fod yn osgordd ac yn amddiffyn iddo, rhag y difreinid ef am ei fradwriaeth a'i ysgelerdra. Ond boed hynny fel y mynno, hwn sydd ddilys ddigon, fod pob peth allan o drefn, fyg fag, bendrapen ymysg y Brutaniaid ar ol ymadawiad y Rhufeiniaid oddiyma. Prin, ïe, prin iawn, yr ystyrrid pa wir hawl neu deitl, nag ychwaith pa gyneddfau da, a fyddai gan neb un a osodai gais i fod yn ben—rheolwr gwlad; ond yr hwyaf ei gleddyf a'r dirieitiaf a ymhyrddai i awdurdod ac a gadwai y rheolaeth hyd oni ddeuai un trech nag ef, i'w wthio ymaith. A hyn y mae Gildas,
Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/97
Gwirwyd y dudalen hon