Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/98

Gwirwyd y dudalen hon

yr hwn a ysgrifennodd o gylch y flwyddyn o oedran Crist 546, yn ei dystiolaethu yn eglur. Ac felly Gwrtheyrn, rhag y difreinid ef, megis y gwnaed i laweroedd ereill o'i flaen, a alwodd am gymorth y Saeson, i ddiogelu ei hun ar yr orseddfainc. A hyn, yn wir, a allai fod yn un rheswm ymysg ereill; ond i ymladd â'r Brithwyr y cyflogwyd y Saeson yn bennaf dim.

Felly Gwrtheyrn, ar ol ymgynghori a'i benaethiaid, a anfonodd bedwar o wŷr anrhydeddus ei lys i wneuthur amod â'r Saeson, a'u gwahodd hwy drosodd i Frydain, sef oedd enwau y pendefigion hynny, Cadwaladr ap Tudur Ruddfaog, Rhydderch ap Cadwgan Freichfras, Meuric ap Trahaern, a Gwrgwnt ap Maelgwn Ynad, heblaw ereill o is-radd yn osgordd iddynt. Ac yno, wedi myned i ben eu siwrnai, os gwir a ddywed cronicl y Saeson,—canys Sais cynhenid sydd yn adrodd hyn o fater, nid oes air yn un cronicl Cymraeg am dano,—y cenhadon a wnaethant araith gerbron eisteddfod o Saeson yn y geiriau hyn,—

Nyni, y Brutaniaid truain, wedi ein harcholli a'n blin gystuddio gan aml ruthrau ein gelynion, ydym yn deisyf eich porth a'ch nawdd yn y cyfyngdra trallodus i'n dygpwyd ynddo ar hyn o bryd. Ein gwlad sydd eang ddigon, fflwch a diamdlawd o bob peth buddiol at gynhaliaeth dyn; cewch feddiant ynddi; digon yw hi i ni a chwithau. Hyd yn hyn y bu y Rhufeiniaid yn ymgeleddwyr tirion i ni; nesaf at va rai ni adwaenem neb a roddodd brawf mor helaeth o'u grymusdra a chwychwi. Bydded eich arfau seinio allan eich gwroldeb yn Ynys Brydain, ac ni fydd flin gennym wneuthur o'n rhan ninnau,