Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/99

Gwirwyd y dudalen hon

un fath o wasanaeth a esyd eich ardderchawgrwydd arnom.

Ac yno yr atebodd y Saeson wrth fodd eu calonnau, gan ddywedyd, "Chwi ellwch hyderu arno, Frutaniaid anrhydeddus, y bydd y Saeson yn geraint cywir i chwi, ac yn barod i'ch cynorthwyo yn yr ing a'r trallod mwyaf." Y gwirionedd yw, nid yw yr araith hon ond chwedl gwneuthur y Sais; nid dim ond ei ddychymyg ei hun; canys nid oedd awdurdod y cenhadon a anfonwyd at y Saeson ddim amgen ond amodi â hwy er cymaint a chymaint o gyflog, megis y gallent hwy gytuno arno; nid oedd air o son am gael meddiant mewn un cwr o'r deyrnas.

Yr oedd ambell un, y rhai oedd a'u synhwyrau yn effro, yn darogan y wir chwedl, ac yn ofidus eu calon wrth ragweled y distryw gerwin oedd ar ddyfod. "Pan gaffo y cacwn, ebe un, "lety yng nghwch y gwenyn, gorfudd ar wir drigolion y cwch roddi lle i'r pryf gormesol. Gwae fi, na fyddo gwahodd y Saeson ddim yn gwirio dihareb, Gollwng drygwr i ysgubor gŵr da,' a llawer gwaith y gwelwyd mai Gelyn i ddyn yw ei dda.'" "Mi a glywais hen chwedl," ebe un arall, "i'r clomenod gynt amodi â'r barcutanod ar eu cadw rhag rhuthr y brain; y bodaod yn ddilys ddigon a erlidiasant y brain ymaith; ond beth er hynny? Nid hwyrach ag y byddai chwant saig felus ar y bodaod, nid dim arall a wasanaethai eu tro ond colomen at giniaw a phrydnawnfwyd. Mi gaf gan Dduw mai nid hynny a fydd corff y gaine, ar waith ein brenin da ninnau yn anfon am y Saeson. Ond nid oedd ond ambell offeiriad tlawd yn dal hyn o sylw ar bethau. Canys ar ol dychwelyd y cenhadon adref, y bu llawenydd o'r mwyaf yn