Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/101

Gwirwyd y dudalen hon

bobl ieuaingc i ddarllen y gair yn ddeallus, ond hefyd eu hegwyddori yn y pethau a berthyn i fywyd a duwioldeb; a chafodd nifer fawr eu tueddu yn wirfoddol'i fod yn ddysgawdwyr ynddynt, heb na gwerth na gwobrwy. Tua'r amser hwnw cafodd y Parchedig T. Charles ar ei feddwl, ynghyda rhai o'i gyfeillion yn Lloegr, sefydlu rhyw ychydig nifer o ysgolion rhad, trwy dair neu bedair o siroedd Gwynedd, i'w symud o fan i fan bob haner blwyddyn: rhoddes y rhai hyny gychwyniad da a chynydd/dysgeidiaeth i lawer o dlodion. Ond tu hwnt i bobpeth, yr Ysgolion Sabbathol a helaethodd freintiau yr oes bresennol, fel na bu y Cymry, er pan y maent yn genedl, mor gyflawn o ragorfreintiau yr efengyl ag ydynt y dyddiau hyn.—Un Robert Raikes, Yswain, o Gaerloyw, wrth weled aneirif o blant tlodion. yn cael eu dwyn i fyny mewn anwybodaeth o Dduw a dyledswyddau crefyddol, a dybiodd y gallai Ysgolion Sabbathol fod o fawr fendith yn y wlad. A chan ddechreu yn Nghaerloyw yn y flwyddyn 1803, ac wrth weled ei lwyddiant yno a manau ereill, bu y gŵr da yn gynorthwyol i'w sefydlu mewn amryw barthau o'r deyrnas. A diau na bydd ef, na neb a fyddo yn ffyddlon dros achos Duw, heb eu gwobr. Yn mysg llawer o lafur a diwydrwydd y diweddar Barchedig. T. Charles—nid yn unig yn pregethu yr efengyl, a chyhoeddi amryw lyfrau, yn enwedig y Geiriadur Ysgrythyrol, yr hwn yw y ganwyll oleuaf a ymddangosodd erioed yn Nghymru i egluro ardderchawgrwydd a chysondeb athrawiaethau yr efengyl, ac a fydd yn amgen trysor i'n gwlad na holl drysorau yr India, ac yn helaethach esponiad ar yr ysgrythyrau sanctaidd nag un a ddaeth eto yn ein hiaith ni i'n mysg: heblaw y gorchwylion pwysfawr a soniwyd, ymdrechodd yn wrol heb ddiffygio i blanu a lledaenu Ysgolion Sabbathol, gan anog byd y gallai bob ardal trwy Gymru i osod i fyny yr ysgolion hyn, a thaer gymhell pawb a fedrai ddarllen, ac oeddynt a dim gwasgfa arnynt am achub eneidiau, ar iddynt ymroddi yn ffyddlon ac yn ddiwyd at y gorchwyl llwyr angenrheidiol hwn; sef, nid yn unig dysgu i ddarllen yn gywir ac yn ddeallus bawb a fyddai dan eu gofal, ond hefyd eu hegwyddori yn y pethau sydd yn perthyn i fywyd a duwioldeb. Bu y gŵr duwiol hwn nid yn unig yn taer gymhell pawb hyd y gallai i ymaflyd yn y gorchwyl hwn, ond byddai ei hun hefyd yn dra llafurus a diwyd tu hwnt i bawb ereill, yn mhob ardal hyd y gallai gyrhaedd, yn addysgu, yn egwyddori, ac yn gwrando ar adrodd pennodau o'r Bibl: hyn oedd ei fawr hyfrydwch, ac ni ddiffygiodd ynddo hyd ddiwedd ei oes. Cafodd weled llwyddiant mawr yn ei ddydd ar ei lafur trwy y rhan fwyaf o Gymru, tu hwnt, i raddau mawr, i'w ddysgwyliad. Cyhoeddodd lyfr cynwysfawr o egwyddorion y grefydd Gristionogol, yn gynorthwy i athrawon yr ysgolion i