Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/20

Gwirwyd y dudalen hon

buasai ond un, ie, yr iselaf yn y teulu. Gwnaeth ei elynion yn fynych gynllwyn i geisio ei ddal; ond yr Arglwydd a'i cuddiodd yn nghysgod ei law. Un waith, pan oedd newydd ddarfod pregethu, llechodd mewn cell yn y tŷ, ac ni chanfu yr erlidwyr y drws i ddyfod ato. Bryd arall, daeth cwnstabl i mewn i'r ystafell, ac yntau yn pregethu, a gorchymynodd iddo dewi. Efe yn wrol a archodd iddo, yn enw y Duw mawr yr hwn oedd efe yn ei bregethu, na rwystrai mo hono, gan ystyried y byddai raid iddo ateb yn y dydd mawr. Y dyn, ar hyny, a eisteddodd i lawr dan grynu, ac a wrandawodd yn bwyllog hyd ddiwedd y cyfarfod, ac yna aeth ymaith yn llonydd. Ni ddaliwyd ef ond unwaith. Cafodd feichiau, a phan ddaeth ger bron y frawdle, rhyddhawyd ef gan rai boneddigion ag oedd ustusiaid yr heddwch, y rhai hefyd oeddynt gyfeillion a pherthynasau iddo. Odid nad yn Sir Gaernarfon y bu hyny. Pan oedd yn byw yn yr Amwythig, darostyngwyd ef rai gweithiau i iselder mawr; ond cynorthwywyd ef lawer tro megys yn wyrthiol. Unwaith pan oedd mewn gweddi gyda'i deulu yn adrodd ei gyfyngder ger bron Duw, curodd gwr wrth y drws, a rhoddodd iddo ddyrnaid o arian oddiwrth rhyw gyfeillion, heb fynegu pwy oeddynt. Bryd arall, pan oedd yn dra isel arno, daeth yr un gŵr a swm go fawr o arian iddo yr un modd. Ataliwyd oddiwrtho etifeddiaeth ag oedd gyfiawn iawn i'w wraig ei meddiannu, dros ddeng mlynedd, ar gam, yr hon oedd werth 40 punt yn y flwyddyn. Ond er y cwbl, siriol a diwyd oedd hi yn ei sefyllfa isel; ond yn awyddus os byddai bosibl i'r meichiau gael eu rhyddhau; yr hyn trwy ddaioni rhagluniaeth Duw, a'i fendith ar eu diwydrwydd, a gyflawnwyd cyn marw Mr. Maurice. Y deng mlynedd hefyd a ddaethant i ben, i'r tir ddyfod i'w gyfiawn etifeddion, ychydig ar ol ei farwolaeth. Gofynodd rhai o'i gyfeillion yn Sir Gaernarfon iddo unwaith, Pa fodd yr oedd yn byw (canys gwyddent am ei sefyllfa isel). Byw yr wyf, meddai yntau, ar y chweched o Mathew. Gofynasant iddo yn mhen blynyddau drachefn, Pa fodd yr oedd у 6ed o Mathew yn troi allan. O! da iawn (meddai yntau), i Dduw byddo y diolch. Yn ei bregethiad, ei amcan fyddai gosod sylfaen ffordd iachawdwriaeth trwy Grist. Pan goffâi ef Ysgrythyr, ni adawai hi heb ei hegluro a dangos ei hystyr yn oleu. Pan y cynghorid ef gan ei gyfeillion i arbed ei hun, dywedai wrthynt, Fod yn rhaid i wr a segurodd yn y bore ddyblu ei ddiwydrwydd yn y prydnawn. Llafur gormodol a theithiau blinderus, o'r diwedd a dorodd ei rym, ac a'i prysurodd i'w fodd.

Yr oedd ei ymddygiad yn ei glefyd diweddaf yn cyfateb yn gyson i'w ymarweddiad yn ei fywyd. Amlygodd yn dra