Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/25

Gwirwyd y dudalen hon

ionydd. Bu H. Maurice iddynt yn bob cynorthwy ag a allai, nes ei farw; yr hyn a ddygwyddodd yn y flwyddyn 1682, fel y soniais eisoes. Y gweinidog cyntaf a sefydlodd yn eu plith oedd W. Phillips, o Sir Gaerfyrddin (neu fel y myn rhai, o Sir Forganwg.) Cawsai ddysgeidiaeth dda; ond troes allan yn ei ieuengctyd yn ddyn gwag ac anystyriol. Yr oedd ganddo un cyfaill mwy neillduol nag ereill, ag oedd yn cydredeg gydag ef i bob gwagedd. Ar ryw Sabbath, gofynodd y naill i'r llall, i ba le y cawn fyned heddyw? A gawn ni fyned i wrandaw ar y gwr a'r gwr yn pregethu? ac felly fu. Wedi dyfod allan, dywedodd ei gyfaill wrtho, Wel, bellach ni a awn i'r lle a'r lle, i wneyd ein hunain yn llawen gyda rhyw ddigrifwch. Dywedodd Mr. Phillips wrtho, Fy nghyfaill, y mae yn rhyfedd genyf eich clywed. Oni chlywsoch fel yr oedd y pregethwr yn dywedyd am bechod, a'r gosp ddychrynllyd ddyledus o'i herwydd? gan hyny, pa fodd y gallwn wneuthur y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw? O hyny allan gadawodd ei hen gyfeillion ofer, a'u ffyrdd pechadurus, ac a ymroddodd i geisio yr Arglwydd â'i holl galon. Daeth yn mlaen ar gynydd mewn gras a gwybodaeth iachusol, a doniau helaeth. Cafodd anogaeth i arfer ei ddoniau yn gyhoeddus: ac wedi cael prawf boddlongar o'i addasrwydd i'r weinidogaeth, cymhellwyd ef i ddyfod i Sir Gaernarfon; yntau a anturiodd yno, heb wybod beth a allai y canlyniad fod; ond fel y prophwyd, ufuddhaodd i'r alwad, gan ddywedyd, Wele fi, anfon fi.

Bu ar y cyntaf megys cynorthwywr i Mr. Henry Maurice. Ordeiniwyd ef yn y flwyddyn 1688, a phreswyliodd yn y Gwynfryn. Ni chai na gwas na morwyn, ond rhyw rai na chymerai neb arall mohonynt. Cafodd o'r diwedd ryw greadur annosparthus ac ymladdgar yn forwyn, a byddai hono yn rhegu ac yn diawlio, fel pe buasai o ddyben i'w boeni. Sylwodd hon y byddai ei meistr yn cilio i'r parlwr yn fynych wrtho ei hun. Un tro dywedodd hithau wrthi ei hun, Pa beth y mae yr hen ddiawl yn ei wneyd acw? Edrychodd trwy dwll y clo, a chanfu y gŵr duwiol ar ei liniau, a'r dagrau yn у llifo ar hyd ei ruddiau; a thrwy hyny fel moddion dechreuol, enillwyd y creadur ysgeler i garu crefydd a duwioldeb: ac o у hyny allan bu yn aelod defnyddiol yn yr eglwys. Yr oedd Mr. Phillips yn wr hŷf a gwrol o ran ei dymher; a chan fod y Weithred o Oddefiad (Act of Toleration) wedi dyfod allan, cafodd le i bregethu yn Nghaernarfon. Parhaodd i weinidogaethu yno, ynghyda manau ereill, tra bu efe byw: ond nid nemawr ymhellach, am lawer o flynyddoedd, y bu pregethu yn Nghaernarfon gan yr Ymneillduwyr.