Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/28

Gwirwyd y dudalen hon

ar ddull corph o dduwinyddiaeth, yn mha un yr ymddengys yn amlwg ei fod yn oleu ac yn gadarn yn y wir athrawiaeth; ac nid yw yn anhawdd archwaethu wrth ei ddarllen, fod ei enaid yntau ei hun yn brofiadol o'r unrhyw.

YMOF. A oes eto ddim gwir deilwng o'u coffâu o hanesion yn yr amseroedd tywyll hyny?

SYL. Meddyliwn na byddai yn anfuddiol coffâu ychydig am y gwŷr enwog a fuont yn offerynol i gyfieithu yr Ysgrythyrau sanctaidd i'r iaith Gymraeg.—Y cyntaf a anturiodd at y gwaith canmoladwy a llafurus hwn oedd William Salisbury, o'r Cae du, yn Llansanan, Sir Ddinbych. Cyfieithodd y Testament Newydd, gan mwyaf ei hun, ac argraffwyd ef yn y flwyddyn 1567. Argraffodd hefyd rai llyfrau bychain ereill. Nid oes lle i amheu nad oedd yn wr duwiol, ac ymdrechgar iawn dros achos Duw a llesâd eneidiau anfarwol. Bu y Cymry 21 o flynyddau wedi hyny heb gael y Beibl yn gyflawn: yr hyn o'r diwedd a ddygwyd i ben trwy lafur y Doctor William Morgan, yr hwn oedd y pryd hyny yn ficar yn Llanrhaiadr yn Mochnant. Ganwyd ef yn Ewybr-nant, yn mhlwyf Penmachno, yn Sir Gaernarfon. Dygodd y plwyfolion ryw achwyniad arno at yr esgob. Mae lle i feddwl mai ei lymder yn erbyn eu drwgfoesau hwy a fu yr achos iddynt chwilio allan rywbeth yn ei erbyn. Wedi ymddangos o hono ger bron yr archesgob, wrth iddo ymddiddan â'r Dr. William Morgan, cafodd le i farnu ei fod yn nodedig o hyddysg yn yr ieithoedd gwreiddiol, yn mha rai yr ysgrifenasid yr Ysgrythyrau. Gofynodd yr archesgob iddo, a oedd efe mor hyddysg yn yr iaith Gymraeg ag oedd efe yn yr ieithoedd gwreiddiol. Atebodd yntau, Gobeithio, fy arglwydd esgob, y bernwch fy mod yn fwy cyfarwydd yn iaith fy mam nag mewn un iaith arall. Yna yr esgob, yn lle gwrando ar enllib y plwyfolion, a anogodd y doctor i gyfieithu yr hen Destament (yr hwn yr oedd efe eisoes wedi ei ddechreu,) ac felly daeth argraffiad o'r Bibl allan yn gyflawn yn y flwyddyn 1588. Er mai Doctor Morgan oedd prif awdwr y cyfieithiad hwn, eto yr oedd amryw yn ei gynorthwyo, sef y Doctor W. Hughes, o Sir Gaernarfon, esgob Llanelwy. Cynorthwywr arall, haelionus o thirion iawn, a fu Doctor John Whitgifft, archesgob Caergaint, sef drwy ei gynghorion, ei haelioni, a'i esiampl i ereill i fod yn gynorthwyol yn y gwaith ardderchog hwnw, er mai Sais ydoedd ef ei hun. Hefyd y Doctor Hugh Bellot, yr hwn a wnaed yn esgob Bangor, a fu yn gynorthwyol iawn i ddwyn y gwaith mawr yn mlaen. Y Doctor Gabriel Goodman hefyd sydd yn deilwng o fod mewn coffadwriaeth, am ei gymhorth a'i garedigrwydd yn lletya y Dr. W. Morgan,