Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/36

Gwirwyd y dudalen hon

oen bach diniwaid ymddangos, na'r falwoden ymlusgo, heb ffurfio rhyw ddychymyg am yr hyn a ddygwyddai iddynt y flwyddyn ganlynol. Mewn gair, braidd y dodent ewin ar eu croen heb ryw goel. Ond mi derfynaf ar hyn yn ngeiriau yr hen ddiareb "Pob diareb gwir, pob coel celwydd."

YMOF. Mae yn amlwg, fel y dywed y gŵr doeth, fod trueni dyn yn fawr arno: ac er gwneuthur o Dduw ddyn yn uniawn, hwy a chwiliasant allan lawer o ddychymygion. Ond ewch rhagoch gan adrodd ychydig pa fodd yr oeddynt yn treulio y Sabbathau yn ein gwlad yn y dyddiau tywyll hyny.

SYL. Tra halogedig a phechadurus yn gyffredinol. Mewn rhai manau cyflogid cerddor dros y tymhor haf, i ganu i dorf annuwiol o ynfydion gwamal a ymdyrent i ryw lanerch deg, ar fynydd, neu ryw gytir arall, i gynal math o gyfarfod annuwiol a elwid, Twmpath chwareu, neu chwareuyddfa gampau. Byddai yno, nid yn unig ganu a dawnsio, ond amryw ereill o arferion gwageddol, yn cael eu cyflawni, a hyny tra parhai goleu dydd iddynt. Ymgasglai ereill i'r pentrefi i chwareu y bêl a'u holl egni, hyd yn nod ar yr anedd gysegredig: ac ereill yn fawr eu lludded yn erlid y bêl droed, ac weithiau yn tori aelodau eu gilydd yn yr ymrysonfa. Treuliai ereill y Sabbathau yn y tafarndai, i ymdrybaeddu mewn meddwdod hyd dranoeth; ac yn fynych ni ddybenid y cyfarfodydd llygredig hyn heb ymladdfeydd gwaedlyd. Yr oedd mewn llawer o ardaloedd un Sul pennodol yn y flwyddyn a elwid gwylmabsant, ac yr oedd hwnw yn un o brif wyliau y diafol: casglai ynghyd at eu cyfeillion luaws o ieuengctyd gwamal o bell ac agos, i wledda, meddwi, canu, dawnsio, a phob gloddest. Parhai y cyfarfod hwn yn gyffredin o brydnawn Sadwrn hyd nos Fawrth. Arferent hefyd weithiau gladdu eu meirw ar y Sabbathau. Alaethus meddwl y dull gwag ac anystyriol a fyddai ar y werin ar ol danfon eu cymydog i dŷ ei hir gartref. Heidient yn lluoedd i'r tafarndai i yfed diod gadarn, i'r dyben i ddiffodd pob ystyriaeth am farw a byd arall o'u meddyliau. Rai gweithiau cyrchent gerddor i'r cwmni i'w difyru, fel y cyrchwyd Samson gynt i beri chwerthin. Fel hyn y treuliodd y rhan fwyaf o'n hynafiaid eu dyddiau, ac mewn moment disgynent i'r bedd. Ond Och! na b'ai pobl yr oes hon, sydd mor helaeth eu breintiau, yn rhagori mwy arnynt mewn rhinwedd nag y maent.

YMOF. Mawr yw yr achos sydd genym i ryfeddu daioni Duw tuag atom, am i'n llinynau syrthio mewn lleoedd mor hyfryd, sef trefnu i ni gael ein geni mewn gwlad ac oes ag y mae yr efengyl yn seinio mor beraidd yn ein clustiau., Os cyfrifodd un o'r hen Feirdd cenhedlig ei hun yn ddedwydd yn ei enedigaeth (er mai mewn oes dywyll y cawsai ei eni) pan y dywedai,