Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/43

Gwirwyd y dudalen hon

ioldeb arno; a chafodd anogaeth i gynghori ei gyd-bechaduriaid i droi at yr Arglwydd, a bu yn fendithiol i lawer. Enw y gŵr oedd Richard Dafydd. Dro arall daeth dyn i mewn ar ganol yr oedfa, a golwg gyffrous arno; a meddyliodd y pregethwr mai am erlid yr oedd hwnw: ond cafodd newid ei farn am dano yn ebrwydd, wrth weled ei ddagrau yn llifo. Cyffro o natur arall oedd ar y gŵr, sef trallod ynghylch mater ei enaid.

YMOF. Mi debygwn wrth yr hyn a adroddasoch fod rhyw arwyddion o'r diwedd o'r wawr yn dechreu ymddangos. Crybwyllasoch eisoes am Mr. Howell Harris: byddai yn dda genyf glywed ychwaneg am dano, ac am ei ddyfodiad i'n gwlad.

SYL. Gan fod hanes tra helaeth am dano yn argraffedig eisoes, ni bydd i mi yma ond rhoddi ychydig dalfyriad o'i hanes —Ganwyd ef yn Nhrefeca, yn Sir Frycheiniog, yn y flwyddyn 1714. Cafodd ei gadw mewn ysgol nes oedd yn ddeunaw oed. Bwriadwyd ei ddwyn i fyny yn weinidog o'r Eglwys Sefydledig, a bu dros ryw ychydig amser yn Rhydychain i'r dyben hyny. Ond pan oedd yn un ar hugain oed, aeth i'r sacrament, ac ar adroddiad y geiriau hyny, "Eu coffa sydd yn drwm genym," &c., cafodd ei daro gan ei gydwybod, nad oedd efe yn wir deimladwy fod pechod yn annhraeth ei oddef, ac ofnodd ei fod yn myned at fwrdd yr Arglwydd a chelwydd yn ei enau. Meddyliodd godi a myned ymaith: a thuag at lonyddu ei gydwybod, meddyliodd wellhau ei fuchedd o hyny allan. Nid oedd er hyny ond tywyll iawn am ei gyflwr fel pechadur colledig, nag am ffordd a threfn iachawdwriaeth trwy Grist: ond eto yr oedd y wasgfa am ei gyflwr yn trymhau fwyfwy arno. Un diwrnod, wrth weddïo, teimlodd gymhelliad cryf ynddo i roddi ei hun i'r Arglwydd fel yr oedd. Aeth yr ail waith i dderbyn Swper yr Arglwydd yn drwmlwythog a blinderog. Ond wrth i'r Gweinidog ddarllen gwahoddiad yr Arglwydd Iesu i'r cyfryw ddyfod ato ef fel yr esmwythâi arnynt, torwyd ei gadwynau, a chafodd y fath ddatguddiad o'r Cyfryngwr, fel ag y llanwyd ei enaid o dangnefedd a chariad Duw. Cafodd yn fynych y fath amlygiadau o gariad anghyfnewidiol y. Jehofa nes y byddai ei enaid yn llawn o orfoledd yr iachawdwriaeth. Erbyn hyn yr oedd wedi ei addasu gan Dduw i fod fel udgorn i roddi gwaedd ar fyd cysglyd. Dechreuodd yn gyntaf yn ei gymydogaeth rybuddio a chynghori cynifer ag a ddeuent i wrando arno. Aeth yn fuan son mawr am dano; ac aeth y tai yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr. Llefarai dair gwaith neu bedair, ie, weithiau bumwaith yn y dydd. Yr oedd ei weinidogaeth yn daranllyd a deffrous, fel y gellid yn briodol ei alw yn "Fab y daran". Ni byddai y pryd hyny yn arfer llefaru oddiwrth un testyn pennodol, ond traddodi i'r bobl yr hyn a roddai yr