Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/51

Gwirwyd y dudalen hon

SYL. Oes: ymhen rhyw dalm o amser ar ol Howell Harris, anturiodd yma er maint oedd cynddaredd yr erlidwyr. Deallwyd yn Penmorfa mai un o'r pregethwyr oedd efe, a bygythiwyd ef yn chwerw yno, gan sicrhau iddo, os âi efe ymlaen, y byddai ei esgyrn yn ddigon mân i'w rhoddi mewn cwd cyn y deuai yn ol. Yr oedd hwn yn gyfarchiad chwerw i filwr ieuange: ond er mor ddychrynilyd ydoedd y bygythion, ymlaen yr aeth efe i Leyn. Cafodd yno ychydig o gyfeillion siriol; a rhoddwyd cais am genad iddo i bregethu yn Llan Follteyrn; ond cauwyd y drws yn ei erbyn. Safodd ar y gareg feirch wrth borth y fynwent, a phregethodd i dorf luosog o bobl. Ei destyn oedd yn Jer. xxx. 21, "Canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i nesâu ataf fi? medd yr Arglwydd." Profodd yn eglur nad oedd neb ond Crist wedi llwyr roddi ei galon i'r perffeithrwydd y mae cyfraith Duw yn gofyn. Fel yr oedd yn myned yn mlaen ar ei bregeth, gosododd allan y modd yr oedd y gyfraith fanol a chyfiawnder gofynol, yn nhrefn y cyfamod, yn darlunio yr echryslon boenau a'r arteithiau y byddai raid i'r Meichiau bendigedig fyned trwyddynt, os ymrwymai i dalu dyled pechaduriaid. "Gwybydd (meddai cyfiawnder) er dyfod at yr eiddot dy hun, na chai ond tŷ yr anifail i letya, a phreseb yn grŷd, a chadachau yn wisgoedd." Ond yn lle cilio yn ol, atebai y Gwaredwr, "Boddlon i'r driniaeth hono er mwyn fy nyweddi."—Os wynebi i fyd sydd dan y felldith, cai fod heb le i roi dy ben i lawr: ïe, byddi yn nodi eithaf llid a malais creaduriaid ag sydd yn cael eu gynal genyt bob moment."O fy nghyfraith lân, yr wyf yn foddlon i hyny."—Cai hefyd chwysu megys dafnau gwaed ar noswaith oer, a phoeri yn dy wyneb, a'th goroni â drain: a'th ddysgyblion, wedi bod cyhyd o amser yn gweled dy wyrthiau, ac yn gwrando dy nefol athrawiaethau, yn dy adael yn yr ing mwyaf: ïe, un o honynt yn dy werthu, ac un arall yn dy wadu, gan dyngu a rhegi yn haerllug na adwaenai mo honot.—"Er caleted hyn oll (meddai y Gwaredwr mawr) ni throaf yn ol er neb: cuddiwyd edifeirwch o'm golwg." Yn ganlynol wele gyfiawnder a'r gyfraith yn cyd-dystio, "O! tydi wrthddrych clodforedd holl angylion y nef, a gwir hyfrydwch Jehofa Dad, os anturi i'r fachnïaeth ddigyffelyb yma, bydd holl allu uffern yn ymosod arnat, a digofaint dy Dad nefol yn ddigymysg ar dy enaid a'th gorph sanctaidd ar y groes: ïe, os rhaid dywedyd y cyfan, gorfydd arnat oddef tywallt allan y dyferyn diweddaf o waed dy galon.". Yn awr, pwy heb syndod a all feddwl am y Meichiau hawddgar yn ymrwymo yn wyneb yr holl ystormydd i gymeryd y gorchwyl caled arno ei hun, ac yn wyneb y cwbl yn gwaeddi, BODDLON!

Ni allodd efe fyned yn mlaen yn mhellach mewn ffordd