Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/52

Gwirwyd y dudalen hon

o bregethu, canys torodd allan yn un floedd orfoleddus o wylo a dïolch ar lawer yn y gynulleidfa, megys y blwch enaint yn llenwi y lle a'i berarogl: ac nid anghofiwyd y tro hwn gan lawer ddyddiau eu hoes.—Dygwyddodd rywbryd pan oedd yn pregethu yn mhentref Tydweiliog, a rhyw wr cyfrifol a'i enw Mr Price yn gweddïo o'i flaen, i hwnw gael ei daro â chareg gan ryw wr boneddig, nes oedd ei waed yn llifo: ond nid wyf yn sicr a gafodd Mr. Rowlands lonydd i bregethu y tro hwnw. Bryd arall, yr oedd rhyw led addewid iddo gael pregethu yn Eglwys Nefyn: ond i'w atal, rhoddes yr Eglwyswr, ynghyd ag ereill o'r un dueddfryd, y cantorion i ganu yn y Llan y 119 Salm; ac yna y buont yn oerleisio am oriau, fel na chafwyd cynyg ar bregethu yno y tro hwnw. Barned pawb pa fath ganu rhyfygus a allai hwnw fod. Fel yr oedd rywbryd yn amcanu pregethu mewn lle a elwid Gelli dara, gerllaw Pwllheli, daeth yno dorf o erlidwyr, a chanddynt drum i foddi llais y pregethwr; a chan nad oeddynt yn curo hòno yn ddigon egnïol, daeth rhyw adyn diserch o Bwllheli, a'i enw Andrew, a phan welodd hwnw nad oeddynt yn ddigon effro yn eu gorchwyl, enynodd ei sêl a chymerodd ei ffon, ac a darawodd y drum nes ei dryllio a'i myned yn ddiddefnydd hollol. —Aeth tua'r amser hwnw i Ynys Môn, mewn bwriad o gael pregethu yn Llangefni. Ymgasglodd yno amryw o Eglwyswyr, ac wedi dadleu enyd âg ef am ei awdurdod i bregethu, addefasant ei fod wedi ei gwbl addasu i weinidogaethu yn ei wlad ei hun, ond nid mewn un wlad arall. Yr oedd Mr. William Williams yn cyd-deithio âg ef y tro hwnw; ond ni chai ef braidd ddywedyd gair, am nad oedd wedi cael cwbl urddau. Gorfu arnynt fyned o Fôn heb bregethu unwaith y tro hwnw.

YMOF. Oni soniasoch mai i Bwllheli yr oedd cyrchfa yr ychydig broffeswyr oedd yn y wlad ar y cyntaf? Pa fodd y darfu i'r rhan fwyaf o honynt adael y cymundeb yno, a myned ar eu penau eu hunain?

SYL. Pan ddaeth Mr. Harris ymhen talm o amser drachefn i'n gwlad, dangosodd ei anfoddlonrwydd i'r bobl ymneillduo, gan eu ceryddu; am eu bod yn cyfyngu y gwaith trwy hel yr halen i un cwd: a dangosodd iddynt y dylasai y diwygiad oedd yn tori allan yn y wlad gael ei ledaenu i gylch mwy. Nid hir y bu yr hen weinidog duwiol, Mr. John Thomas, fyw wedi hyn: a chan nad oedd Mr. Richard Thomas, a ddaeth yn ei le, yn cael ei ystyried yn llanw ei le fel gweinidog, cawsant eu tueddu i wneuthur yn ol anogaethau Mr. Harris, i amcanu helaethu y diwygiad yn fwy trwy'r wlad.

Cyn diwedd yr erlid creulon yn Mhwllheli, daeth gweinidog enwog o'r Deheudir, ac a ddangosodd i'w wrandawyr gynwys-