Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/6

Gwirwyd y dudalen hon

a bod rhyw greadur maleisus â llaw yn y gwaith o'u hudo; ac oni ba'i i'r Bibl roddi hanes cywir i ni am y twyllwr, sef, mai y diafol ydoedd; oni fuasai rhai, o bosibl, yn barod i ddychymygu mai rhyw fwystfil dychrynllyd, neu sarph ehedegog, neu ynte wiber enbyd o'r diffeithwch, a'u gwenwynodd yn fuan ar ol eu creu. Am v diluw hefyd, ni buasai genym un darluniad cywir am dano, ond rhyw ddychymygion gwyrgam a chyfeiliornus, fel y sydd gan rai o'r Paganiaid hyd heddyw, oni buasai yr adroddiad am dano yn y Bibl. Diau mai trwy hanesiaeth yr Ysgrythyrau y cawsom dystiolaeth ddiamheuol am Abraham yn aberthu ei fab, helyntion Joseph, gwyrthiau Moses, agor y môr a boddi Pharao, teithiau yr Israeliaid, dull y babell a'r aberthau, atal dyfroodd yr Iorddonen, Dafydd yn lladd y cawr, teml Solomon, Jona yn mol y pysgodyn, y tri llangc yn y ffwrn dan, Daniel yn ffau y llewod: ac aneirif o bethau ereill tra hynod a ddygwyddasant yn yr oesoedd gynt. Buasem hefyd yn y fagddu o dywyllwch am Gyfryngwr y Testament Newydd, oni buasai yr hanes sanctaidd hòno a gawsom gan yr Efengylwyr am dano, sef mawredd ei Berson, Duw-ddyn yn un Crist, ei genedliad goruwchnaturiol, ei sanctaidd enedigaeth, ei demtasiynau, ei wyrthiau, ei annhraethol ddyoddefaint, ei angeu poenus, ei gladdedigaeth, ei anrhydeddus adgyfodiad, ei esgyniad gogoneddus, a'i ddyfodiad i farnu byw a meirw: yn nghyda theithiau, yr erlidigaethau, a'r gwaredigaethau a gyfarfu â'r Apostolion sanctaidd, a llwyddiant eu gweinidogaeth.

Er nad oes unrhyw hanesyddiaeth i'w chystadlu âg eiddo dynion sanctaidd Duw, y rhai a lefarasant megys y cynhyrfwyd hwy gan yr Yspryd Glân, eto y mae hanesiaeth yr eglwys, a'r tymhestloedd yr aeth trwyddynt, a'r erlidigaethau a ddyoddefodd tan ddwylaw creulon ymerawdwyr Rhufain baganaidd: a'r gorthrymder, y lladd a'r llosgi a fu gan y bwystfil anghristaidd, sef y Pab a'i ganlynwyr, ar braidd Crist, yn deilwng iawn o'u cadw mewn coffadwriaeth. Onid ydyw hefyd yn hyfryd cael ychydig o hanes y sêr boreol a adlewyrchodd oddiwrth Haul cyfiawnder, i ddechreu ymlid y nos a'r adar aflan allan o'r wlad? Oni buasai i ryw rai fod mor ffyddlon a chadw coffadwriaeth mewn ysgrifen am yr ardderchog lu o ferthyron a ehedodd adref trwy ganol fflamau tanllyd o ferthyrdod yn orfoleddus; ac am yr enwog Ioan Wickliff, Luther wrol, a'r dichlynaidd Ioan Calfin—ni buasem ni yn gwybod fod y fath wyr enwog (yn nghyda miloedd ereill o dystion ffyddlon tros Dduw) erioed yn y byd.