Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/66

Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd erlid mawr tua'r amser hwnw o ddeutu Adwy'r Clawdd, ac amryw fanau ereill. Aethant a dodrefn y tŷ lle byddai pregethu (sef y Llofft wen) i Wrecsam, a gwerthwyd hwynt yn llwyr ar y farchnad, a gwariwyd yr arian am ddiod gadarn. Daliwyd Mr. Peter Williams, ac aethant a chymaint a feddai oddiarno, ond blwch bychan, yn mha un yr oedd haner gini yn ddiarwybod iddynt. Cymerodd cyfreithiwr o Aberhonddu yr achos mewn llaw, a chodwyd y mater i Lundain; ac er ymgais llawer gan y cyfreithwyr yno wyro barn, methodd ganddynt lwyddo: a thrwy hyny, a'r farn a oddiweddodd rai o'r erlidwyr, gostegwyd yr ystorm hono, fel na chyfododd hyd heddyw i'r un graddau.

Yn agos i Gaergwrle, yn Sir Fflint, y bu tro nodedig iawn. Cyhoeddwyd Mr. David Williams, o'r Deheudir, i bregethu ryw noswaith mewn tŷ bychan. Daeth yno yn lled gynar: ond yn min y nos, dyma ryw ferch yn rhuthro i'r tŷ, bron wedi colli ei hanadl wrth redeg; a'r newydd oedd ganddi pan y cafodd ei gwynt i allu siarad oedd, fod llu o erlidwyr yn dyfod at y tŷ. Yna cododd gwr y tŷ i fyny a chlôdd y drws. Erbyn hyny dyma y dyrfa afreolus wedi dyfod, yn tyngu, rhegi, a diawlio, gan ddywedyd yn haerllug y byddai raid i wr y tŷ yru y pregethwr allan atynt; ond ni fynai yntau er dim gydsynio i wneyd hyny. Aethant hwythau yn fwy fwy afreolus, gan dyngu i'r distryw mawr, oni chaent y pregethwr allan, y tynent y tŷ i lawr am eu penau. Rhedodd rhai o honynt i chwilio am drosolion; ond cyn iddynt wneuthur nemawr o niwaid, dymunodd y pregethwr gael myned allan, gan ddywedyd, "Gollyngwch fi: rhaid i mi gael myned." Yna agorwyd y drws, ac aeth yntau allan i ganol y dorf, ac a ymddiddanodd â hwynt yn debyg i hyn; "Yn enw y Gŵr goreu, beth sydd a fynoch â dyn dyeithr ar ei daith? Pa enw neu anrhydedd a fyddai i chwi pe baech yn fy lladd?", Dygwyddodd fod yn eu mysg ryw ddyn cryfach na chyffredin: safodd hwnw i fyny yn eu canol, gan waeddi allan à llonaid ei safn o lwon, "Onid dyn iawn yw hwn: mynaf chwareu teg iddo er gwaethaf pawb." Gwelodd Mr. David Williams fod y drws wedi agor iddo megys yn wyrthiol i gael pregethu: cafodd le i sefyll yn ochr y ffordd, a phregethodd gyda llawer o hyfrydwch wrth oleuni y lloer; a diau na bu Haul cyfiawnder yn gwbl absennol. Bu pawb mor ddystaw a chûn yr Aipht, ac ymadawsant yn heddychol.

Yr oedd y gŵr yn byw yn agos i'r amser hyny ger llaw Treffynon, a elwid Edward Jones. Yr oedd yn rhagori mewn dysg a doniau ar lawer o bregethwyr tlodion y dyddiau hyny. Cafodd ei ddyrchafu yn' olygwr ar ryw weithydd yn y wlad hono. Fel yr oedd efe, ynghyda rhai gwŷr ereill o sefyllfa uwch na'r cyffredin, yn cyd-deithio ar eu meirch, dygwyddodd