Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/67

Gwirwyd y dudalen hon

iddynt ddyfod heibio i dyrfa o ynfydion yn prysur chwareu, y naill blwyf yn erbyn y llall. Safasant dros ryw enyd i edrych arnynt: ac enillodd y plwyf yr oedd efe yn perthyn iddo y gamp; ac o wag orfoledd am y fuddugoliaeth, rhoisant floedd nes oedd y ddaear yn dadseinio; a themtiwyd yntau i ynfyd floeddio gyda hwynt. Teimlodd yn y fan wg Duw ar ei gydwybod, a'r pethau oedd efe yn eu mwynhau o'r blaen yn cilio oddiwrtho: ac ni chynygiodd bregethu byth wedi hyny. Da i bawb gymeryd cynghor yr Apostol; "Na ddiffoddwch yr Yspryd—Ac na thristewch lân Yspryd Duw." Ond er iddo golli ei fraint yn yr eglwys, ni ellid barnu yn galed am ei gyflwr; oblegyd yr oedd arwyddion o dduwioldeb arno tra y bu ef byw.

YMOF. Rhyfedd diriondeb Duw at ei eiddo, y rhai sydd fel wyn yn mysg bleiddiaid, ac fel lili yn mysg drain. Diau y gall Sïon ddywedyd gyda'r Salmydd, "Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn; yna y'n llyngcasent ni yn fyw, pan enynodd eu llid hwynt i'n herbyn." Cyn gadael y gwledydd hyn, gadewch glywed rhyw ychydig o'r helynt a fu yn Rhuddlan; canys clywais fod yno lawer o derfysg ac erlid pan y dechreuwyd pregethu yno.

SYL. Felly y bu. Yr oedd y dref a'r ardaloedd yn blaenori mewn annuwioldeb ar y wlad yn gyffredin. Cedwid yno bob Sabbath, tra parhai y cynhauaf, fath o gyfarfod lluosog a elwid Gwylmabsant, yn mha un y cyflogid y medelwyr tros yr wythnos. Gwerthid hefyd grymanau, ac amryw bethau ereill, megys pe buasai yn ddiwrnod marchnad. Wedi darfod eu negesau, ymdyrent i'r tafarndai i ganu, dawnsio, a meddwi, yn fynych hyd fore Llun: ac odid na byddai yno ymladd gwaedlyd cyn ymadael. Chwi ellwch feddwl nad oedd hi ddim llai na pherygl bywyd i wynebu yno i gynyg pregethu; ac er hyny anturiodd un William Griffith, o gerllaw y Wyddgrug, a safodd ar yr heol, o achos na cheid un tŷ. Ni chafodd braidd ond dechreu, nad dyna y dom a'r cerig yn cael eu lluchio ato gan dorf ar unwaith; a chafodd ei lusgo a'i faeddu ganddynt yn ddidosturi. Byddai rhyw rai ereill yn dyfod yno i amcanu pregethu; ond yr un driniaeth a gaffai pawb. Un tro wedi dirdynu digon ar ryw bregethwr a ddaethai yno i lefaru, cytunasant â'u gilydd i'w gipio a'i daflu dros y bont i'w foddi: ond fel y mae bywyd pawb yn llaw yr Arglwydd, gwaredwyd ef yn rhyfedd o'u dwylaw. —Yr oedd yno y pryd hyny ficar tra gelyniaethol i grefydd; ac nid oedd neb yn chwythu tân yr erlidigaeth yn fwy nag ef. Un Sabbath, rhoes bum'swllt i'r erlidwyr i dalu am ddiod gadarn i'w gwneyd yn ddigon calonog at eu gorchwyl, a hyny yn union ar ol y cymun. Ond buan y goddiweddodd y farn ef yn amlwg; canys tua phen yr wythnos, dy-