Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/80

Gwirwyd y dudalen hon

llwyddo i ddistrywio a dyrysu y gwaith a'r achos crefyddol yma yn ei febyd; a ddarfu i'r sarph uffernol arfer rhyw ddichell newydd i ddwyn yn mlaen ei hamcan maleisus, tuag at atal ac aflwyddo cynydd crefydd?

SYL. Mae y ddichell fwyaf maleisddrwg o eiddo y diafol heb son am dani eto, sef yr hyn a alwai yr hen bobl yn ymraniado Nid oedd yr holl erlid, dirmyg, a'r enllib a roddwyd ar grefydd, ddim i'w cydmaru mewn galanastra a niwaid i'r hyn a wnaeth. y tro gofidus yma i grefydd.

YMOF. Y mae braw a dychryn yn llenwi fy meddyliau wrth eich clywed. Mae rhyw adgof genyf finau, pan oeddwn yn fachgen, y byddai rhai hen broffeswyr yn son rhywbeth am yr ymraniad; ond aeth hyny trwy fy nghlustiau, fel na feddyliais i fawr am dano byth mwyach. Ond mi debygwn wrth eich crybwylliad am dano, iddo fod o ganlyniad tra gofidus. Adroddwch ychydig am dano.

SYL. Nid yw yn un gradd o hyfrydwch genyf son am dano, ond cymerwch yr hyn a ganlyn yn fyr. Yr oedd Mr. Harris, fel y soniwyd o'r blaen, yn ddeffrous, yn ddiwyd, ac yn llwyddiannus yn ei weinidogaeth, a llawer wedi cael eu galw trwyddo. Perchid ef fel tad a chyfrifid ef fel blaenor yn yr eglwys. Nid oedd efe yn arfer y llwybr cyffredin o bregethu; ond traddodi yr hyn a roddai yr Arglwydd iddo, a hyny gan mwyaf mewn ffordd argyhoeddiadol. Hyd yma yr oedd undeb a brawdgarwch yn mhlith y corph o Fethodistiaid trwy Gymru. Ond yn mhen talm o amser, daeth cyfnewidiad amlwg yn ngweinidogaeth Mr. Harris; aeth i bregethu i broffeswyr yn fwy nag i ddeffrôi y byd yn gyffredinol fel o'r blaen. Meddyliodd iddo gael rhyw ddatguddiad o fawredd gogoneddus person y Cyfryngwr, yn amgen nag a gawsai o'r blaen erioed, ac y mae lle i feddwl i'r gelyn, yn y cyfamser, gael goddefiad i daflu gwreichionen o'r tân dyeithr i'w fynwes, tan yr enw marworyn oddiar yr allor. Gwyrodd i ryw raddau at Sabeliaeth. Yr oedd ef yn ŵr o feddwl tra anorchfygol; ni chymerai yn hawdd ei blygu. Cafodd ei wrthwynebu gan rai brodyr oedd yn cael eu blino â'i ddull yn llefaru am berson a marwolaeth Crist, sef "fod Duw wedi marw,;" &c. Yr oedd gwrthwynebiad oddiwrth frodyr crefyddol yn beth cwbl anadnabyddus ac annysgwyliedig i Mr. Harris: hyd yn hyn yr oeddynt yn gwrando arno ac yn ei barchu fel tad a phen athraw, fel yr oedd yn wirioneddol i'r rhan fwyaf o broffeswyr y dyddiau hyny. Yntau, yn lle arafu a phwyllo, ac ystyried yn ddifrifol a oedd ei ymadroddion yn addas am y pyngciau uchod, a chwerwodd yn ei yspryd tuag atynt; a hwythau, yn ddiau yn ormodol, tuag ato yntau; a phellasant yn raddol oddiwrth eu gilydd, hyd nes addfed-