Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/82

Gwirwyd y dudalen hon

canodd Satan yn fore wneyd rhwyg ac ymraniad rhwng dau ag oedd yn golofnau yn yr eglwys Gristionogol, sef Paul a Barnabas, Act. xv. 39. Ond er iddynt ymadael a'u gilydd, goruwch-lywodraethodd yr Arglwydd y ddamwain hono i fod er llwyddiant i'r efengyl, ac yn ddymchweliad i deyrnas y diafol. Mae addewid rasol yr Arglwydd yn sicrhau, "Pan ddelo y gelyn i mewn fel afon, Yspryd yr Arglwydd a'i hymlid ef ymaith." Dygwyddodd i Mr. Rowlands goffâu yn ei bregeth, yn amser yr ymraniad, am dro nodedig a fu yn Rhufain, pan oedd у traed pridd y sonir am danynt yn llyfr Daniel yn dechreu malurio; fod y gelynion wedi tori i mewn i'r ddinas, a chan faint oedd gofal y dinasyddion am eu heulun-dduwiau, у gosodasant luaws mawr o'r milwyr cadarnaf i amddiffyn y PANTHEON, sef tŷ y rhith-dduwiau hyn (mor fawr yw ynfydrwydd dynolryw, fod yn addoli y fath bethau diles nas gallant gadw na gwaredu eu hunain!) Ond bu i'r milwyr, yn lle gwylio yn ddyfal, fod mor anffyddlon a chysgu yn drwm; a diau y buasai y gelynion wedi rhuthro ar y duwiau meirwon hyny, ac yspeilio yr holl drysorau oedd yn perthyn iddynt, oni buasai i hen ŵydd oedd gerllaw roi creglais ofnadwy i ddeffrôi y milwyr at eu harfau; ac felly cadwyd y duwiau. Oddiwrth yr hanes yma gwnaeth y casgliad hyn yn erbyn y rhai oedd yn dal allan fod Duw wedi marw, sef "Fod gwydd fyw yn well na Duw marw."

Cyn gadael yr hanes uchod, fe allai y byddai yn angenrheidiol coffâu pa fodd yr aeth Mr. Harris a'i ganlynwyr yn mlaen, ar ol yr ymraniad gofidus hwn. Gallwn feddwl gan ei fod yn offerynol yn llaw yr Arglwydd i argyhoeddi y rhan fwyaf o'r rhai a ddaethent at grefydd yn y dyddiau hyny, fod eu tuedd a'u serch tuag ato, a'u hymlyniad yn fawr wrtho; ac wedi iddo roi heibio deithio trwy Gymru i bregethu fel o'r blaen, a chartrefu yn Nhrefecca, ymgasglodd cryn nifer o'r rhai hyny ato o amryw barthau o'r wlad, ac yr oedd yn pregethu iddynt ddwy waith neu dair bob dydd. Yn Ebrill 1752, sylfaenwyd yr adeilad presennol sydd yn Nhrefecca. Yr oedd efe yn barnu ei fod yn cael ei gymhell gan yr un yspryd i godi yr adeilad, ag a'i hanogasasai ef ar y cyntaf i fyned allan i bregethu. Mae yn debyg mai adeilad o'r fath a gyfodasai rhyw ŵr duwiol yn Germany gynt, ag a fu yn dra bendithiol, a'i tueddodd i wneyd yr adeilad yn Nhrefecca; a'r un modd hefyd y gwnaeth Mr. Whitfield yn yr Amddifaid (Orphan House) yn yr America. Fe allai; os addas barnu' wrth y. canlyniadau, nad oedd un o'r ddau a'r un alwad neillduol iddynt yn hyn o orchwyl, a'r gŵr duwiol hwnw, Mr. Frank, o Germany. Gwell dystewi na barnu gwŷr mor enwog a defnyddiol yn ngwaith yr Arglwydd: dwfn ac anchwiliadwy