Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/84

Gwirwyd y dudalen hon

Darfu i'r rhai a arosodd yno, amryw weithiau, anturio i ffeiriau a marchnadoedd i bregethu, fel Howell Harris; ond am nad oeddynt wedi eu haddasu i'r gwaith pwysfawr hwnw fel efe, ni chafwyd dim hanes i'r gorchwyl a gymerasent mewn llaw ateb fawr o ddyben. Am ereill o'r llefarwyr a safodd o blaid Harris, unodd y rhan fwyaf o honynt mewn amser gyda Rowlands a'i frodyr; trôdd ryw ychydig at yr Ymneillduwyr; gwyrodd ereill yn ardaloedd Llanfairmuallt at Antinomiaeth, ac un Thomas Seen yn athraw iddynt. Unodd rhyw nifer â'u gilydd yn Sir Drefaldwyn, sef Thom Meredydd, ac Evan Thomas, ac yn Sir Ddinbych, Moses Lewis, ac amryw gyda hwy, pa rai a fuasant gynt yn wresog o blaid Harris. Methodd ganddynt foddloni cartrefu gyda theulu Trefecca, eithr ymadawsant; a rhag i neb eu cyfrif yn wrthgilwyr, ffurfiasant gyda eu gilydd ryw fath o grefydd led ryfedd, o amryw ddefnyddiau. Benthyciasant gryn lawer o waith Cudworth, ac amryw o'r pethau anhawddaf eu deall o waith Morgan Llwyd, a William Erbury: a thuag at wneyd eu proffes yn ddigon ysprydol, rhoisant gryn swm o surdoes y Crynwyr am ben eu defnyddiau ereill. Ar ol dodi yr holl gymysg hyn yn nghyd, yr oedd y grefydd yma gwisg glytiog cardotyn, yn anhawdd dirnad pa beth oedd ei dechreuad. Nid oedd ganddynt ystyr lythyrenol ar un rhan o'r ysgrythyrau, ond golygu y cyfan yn ysprydol. Er esiampl, nid y ddaear yr ydym ni yn byw arni a losgir, ond y ddaear sydd mewn dyn. Yr haul yn tywyllu, haul rheswm. Dwy fydd yn malu mewn melin, y ddwy anian, &c. Nid oedd ganddynt un parch i'r Sabbath nac i un o ordinhadau yr efengyl; er hyny cawsant rai canlynwyr mewn pump o Siroedd Cymru: ond y maent yn awr wedi hollol ddarfod a diflanu er's blynyddoedd, am a wn i, yn mhob man. Felly darfyddo pob gau grefydd o flaen yr efengyl ogoneddus o begwn i begwn i'r byd; a dyweded pob un a garo y gwirionedd, Amen.

YMOF. Fe allai i chwi sylwi o amser i amser, pa bethau, yn fwyaf neillduol, a ddefuyddiodd y gelyn diafol i geisio dyrysu ac aflwyddo y gwaith, yn ganlynol i'r ymraniad; canys diau na bu Satan, y gelyn dichellgar, maleisus, ddim heb arferyd rhyw ddyfais uffernol tuag at ddistrywio achos Duw.

SYL. Hir nos, a gauaf diffrwyth a fu yr effeithiau o'r ymraniad gofidus a grybwyllwyd am dano. Dylai fod y tro galarus hwn yn rhybudd i bob corph o broffeswyr gwir grefydd, i daer ymbil ar yr Arglwydd am eu cadw mewn yspryd ac yn nghwlwm tangnefedd, rhag eu cael yn waeth na'r milwyr Rhufeinaidd, y rhai ni feiddiasant ddryllio