Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/119

Gwirwyd y dudalen hon

AMSER.

Cwyno yr wyf ond wyf yn ffol,
Nid cwyno ar ol pleser,
Na chwaith am nerth a thegwch pryd,
Na phethau'r byd, ond Amser.

Os cefais nerth a chlod a pharch,
Caf hefyd arch ar fyrder:
Fy nghur sy am na chaf fy nghais,
Yr hyn a gollais, Amser.

Pa les i mi balasau mawr,
A byw mewn dirfawr wychder;
Ac yn y diwedd fod yn ol,
Wrth dreulio 'n ffol fy Amser?

Pe gwyddwn rîf y sêr bob un,
Eu lliw, a'u llun, a'u pellder;
Gwell gwybodaeth, a mwy braint,
Ystyried maint fy Amser.

Pe medrwn ieithoedd pobloedd pell,
Heb neb yn well eu ffraethder;
Doethineb byd i gyd yn grwn,
Beth dalai hwn heb Amser.

"'Rwy'n goddef cam," medd hwn a'r llall,
Pa beth, ai dall cyfiawnder?"
Na, byr y bydd, daw boreu i ben
Y gwelir dyben Amser.