Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/134

Gwirwyd y dudalen hon

Yn nhymor fy ie'nctyd fel hyn,
Llawn bywyd, llawn harddwch, llawn nwyf,
Fel ewig ar lethr y bryn
Yr oeddwn;—ond O! fel yr wyf
Daeth awel lem henaint dros fynwent y llan,
A gwywodd fy nhegwch i gyd yn y fan.

Ail wisgo ei blodau wna'r ardd,
Ail ddeilio wna'r coedydd yn nghyd,
Ail egyr y rhosyn yn hardd,
Ail enir holl anian i gyd;
Yr adar fu'n cysgu ail ganant mewn bri,
Ond och! ni ddaw ie'nctyd yn ol ataf fi.

Gostegodd per lais merched cân,
Aeth duwies cerddoriaeth yn fud,
Fe oerodd— diffoddodd ei thân,
A drylliwyd ei holl offer drud;
Y llais oedd bereiddiach na thànau'r holl w!ad
Sy'n awr yn wichedig grynedig oer nâd.

Fe giliodd y gwrid têg o'm grudd,
Fe syrthiodd fy nannedd i gyd,
Y llygad fu'n llon sydd yn brudd,
Adfeilio mae'r babell, o hyd;
Nis gallaf gan henaint braidd godi fy mraich,
Mae'r anadl yn pallu, a'r einios yn faich.

Yn iach i fywiogrwydd a grym,
Yn iach i lawenydd y llawr,
Daeth artaith a gofid tra llym,
I'm llethu a'm nychu yn awr;
Mae angel marwolaeth yn minio ei gledd,
A minnau yn edrych dros geulan fy medd.

Yn fuan, yn fuan mi af
I orwedd i, stafell y glyn,
Eiddunaf drugaredd fy Nâf,
I'm henaid, O! rhodded im hyn:
Fy nghysur mewn henaint yw gobaeth cael byw
Mewn ie'nctyd ac urddas yn ninas fy Nuw.

—HUGH TEGAI.