Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/135

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

125 IAITH A THELYN CYMRU. Pan oedd diffyg tân ar Gymro Meddai iaith allasai'i dwymno ; 'Nawr rhwng tânau a danteithion, Cyll ei iaith, a chyll ei galon. Rhowch i mi'n lle gwledd a gwinoedd, Serch a doniau'r hen amseroedd ; Yna dysgaf, yna canaf Fel y goreu feirdd a garaf. Trech na chyfraith , trech nac arfau, Trech na phob peth can a thanau, Dyweded ef amheuo hyny, P'odd mae'n fyw hen Delyn Cymru ? Gan ei byw ' nol syrthio'n cestyll, Gan i ing gryfhau ei hesgyll, Tra bo natur, tra bo elfen, Byw bo'r delyn, byw bo'r awen. Boed i bob peth gael ei amser, Ac ' nol hirwaith na boed ofer I bob Cymro ganu ei deimlad , Gyda thonau pêr ei Henwlad. Tybia rhai mai da f'ai claddu laith, a chan, a Thelyn Cymru ; Cyn y dygwydd hyn i Walia, Gwedi'n nghladdu b'wyf y'nghynta.