Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/139

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

129 "L SAITH Y'M NI. ” Mi gwrddais â morwynig wen, A llawn wyth oed oedd hi ; A'i gwallt y'mhleth o gylch ei phen Fel coron aur mewn bri. Roedd ganddi fochau cochion bach, A dillad gwladaidd glân, A llygaid ysgeifn, bywiog, iach, A rhês o ddannedd mân. " Sawl brawd, ' sawl chwaer sy' genyt ti ?" Gofynais iddi ar hyn : Atebai-"' Sawl, syr ! Saith y'm ni," Gan edrych arnai'i ' n syn. “ Yn mha le maent? y deg ei gwawr. Atebai, " Yr y'm ni'n saith ; Mae dau yn byw yn Nghonwy'n awr, A dau ar foroedd llaith ... " A dau yn nghŵr y fonwent draw, Yn gorwedd yn ddinam ; Ac acw yn y bwth gerllaw 'Rwyf finau gyda'm mam. " Mae dau yn Nghonwy'n byw yn awr A dau ar foroedd llaith ; Pa fodd y gelli ddweyd, fy mach, Eich bod fel hyn yn saith ? I