Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/149

Gwirwyd y dudalen hon

UCHENAID AM GYMRU.

Ha Gymru i'th fynwes ehed fy uchenaid,
Mewn adgof o'th foelydd yr wyf yn pruddhau;
Ucheldrem dy gedyrn fynyddau a garaf,
Clogwyni'th gadernyd a ddenant fy mryd;
Ymwisgant yn mhlethiad melynwyn niwl araf,
Ireiddion gymylau gusanant yn nghyd.
Yn nghadwen dy enw ymglymodd fy enaid,
Nid oes ond dy gerdded a all ei rhyddhau.

Tryliwiog yw'th ddaear o feillion a bwysi,
Teg emau pefr natur a drwsiant dy fron ;
A'th wyrddfor grisialaidd, ymdorchog ei gwysi,
A chwardd ar dy orchest yn nrylliad ei don.
Didaw ddisgyniadau y rheiydr i'th lenydd,
A felys chwareuant trwy'th nentydd eu sain,
A phelydr goreurog yr haulwen ysplenydd,
A ddawnsiant ar lygaid y grisial yn gain.

Ha Gymro! dy dlysau ŷnt dra gogoneddus,
Pob ogof o'th eiddo sy ddengar ac erch;
Serch feini crogedig uwch ben sy fawreddus,!
Addurnant dy goron, gorlyngcant fy serch
Prid orllwyn a chromlech sydd urdd i'th lechweddau,
Maen chwyf dy Dderwyddon a adgan dy fraint;
Hidl ddagrau tosturi a seliant y beddau
Lle huna dy ddewrion, lle gorphwys y saint.

Ymwibied meib gloddest yn ngrym eu blynyddoedd,
Y destlus wastadedd, a bawddfyd i'w mysg,
Clogyrnog ysgythriad y crychion fynyddoedd,
Ynt benaf anwylion myfyrdod a dysg:
O'm gwydd aed pêr erddi a'u blodau deniadol,
Encilied arogliad y lili wén lân,
I mi rho'wch y moelydd a'r creigiau serchiadol,
Hwynt-hwy a gysegrwyd—i RYDDID A CHAN.

—ROBYN DDU ERYRI.