Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/158

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

148 Iachawr sy'n dod ! fel d'wedodd beirdd y Nef, Clywch Ef fyddariaid ! ddeillion gwelwch Efí Dwg lygad tywyll o dew gèn yn rhydd, Ac ar y ganwyll ddwl arllwysa ddydd ; Holl folltau'r glust o flaen ei lais wnant ffoi, A newydd gaine a'i swyna wrth ddatgloi ; Y mud a gan,-y cloff a ddryllia'i ffyn, Corelwa'n fllwch fel iwrch ar wá y bryn. Un och na thwrf ni thyr ar hinon byd, Oddiar bob grudd fe sycha'r dagrau i gyd : Mewn cadwyn ddiemwnt rhwymir angau mwy, Certh ordeyrn annwn deimla'i fythol glwy. Fel'r arwedd bugail da ei braidd o'i ol, Gan geisio gloewaf nant a gwyrddaf ddol, Adferu y goll, a chyfarwyddo'r wyr, Y dydd eu gwarchod , ac eu noddi'r hwyr ; A'i faethlon fraich yn casglu'r eiddil ŵyn, Eu porthi a'i law, ac yn ei gol eu dwyn ; Felly Efe a lywia fyd a'i law, Er addawedig Dad yr oes a ddaw. Gwlad yngwrth gwlad ni threilia mwy ei grym, Ni chwrdda milwyr graid â llygaid llym : Ni hulir aerfa mwy a llachar ddur ; Ni chyffry'r udgorn croch, na chas, na chur : Pladuriau wneir o'r diles wayw -flyn ; A swch fu'n gledd braenarir godre'r bryn. Dwyrëa llysoedd , llon orephna'r had Yr hyn ddechreu'sid gan ei fyr -oes dad ; Y gwinwydd nodda'r hil ar hefin brwd, Y llaw fu'n hau a fêd, a gluda'r cawd. Rhyfedda gwr wel'd yn yr anial cras, Y lili'n tarddu drwy y cwrlid glas ; Synlama, ynghanol diffaeth sych pan glyw Y llethri'n tyrddu gan reieidr byw Yn holltau'r graig, lle ffurfiodd draig ei ffau, Cryn llafrwyn ir, a gwelir hesg yn gwau ; Lle nidrodd drain ar lychlyd ochrau'r glyn, A chwardd dan urdd o geinhardd dderi ac ynn. Tyf palmwydd gwyrdd yn mangre'r grinllyd berth , A myrtwydd prid Ile cysgodd cegid certh. Y Blaidd a'r Oen gyd borant gylch y gail, Tywysa'r plentyn Lew wrth dennyn dail ;