BEDD Y MORWR.
I nodi'r fan rhoi'r meini hardd,
Lle hûn rhai hoff mewn hedd,
Ac englyn geir o fri gan fardd
Neu wers i gofio'r bedd :
Ond maen ni cheir er côf na chwyn
I nodi bedd y Morwr Mwyn.
Y'nghladdle'r Llan gwerdd ywen sydd
Yn gwâr gysgodi'r bedd ;
A chesglir perion flodau blydd
I hulio'r gwely hedd :
Ond ywen lâs na blodau'r llwyn
Ni huliant Fedd y Morwr Mwyn.
Cwsg ef y'mhell o'i anwyl frö,
A'i Lan,-O lymed wedd !
Lle mae tymhestloedd lawer tro
Yn rhuthro dros ei fedd !
Ond un ar dir a ddeffry gwyn
Mynwesawl am ei Morwr Mwyn.
Ac aml mae'r un ber ei bron,
Ar lan y môr fin dydd,
Yn dal cyfeillach gyda'r don,
Ei serch hebfarw sydd!
Grudd laith, a llygaid llawn, a chŵyn,
Sydd ganddi am y Morwr Mwyn.
Dymuniad ddaw o'i mynwes lân ,
Lle gwnaeth gwir gariad graith,
I'r wylan ddwyn ei galar-gan
Dros fôr ai donau maith ;
Fy ngeneth taw ! anghofia'th gŵyn,—
Dy lais ni chlyw y Morwr Mwyn.