Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

79 CAN DOLI . DEWI. A welaist, a ' dwaenost ti Doli, Sy' a'i defaid ar ochr Eryri ? Ei llygaid byw llon Wnaeth friw ar fy mron, Melusach na'r diliau yw Doli. HYWEL.- O do, mi a adwaenwn I Doli, Mae'i bwthyn wrth droed yr Eryri ; 'Does tafod na dawn All adrodd yn iawn Mor hawddgar a dengar yw Doli. Un dyner, un dawel, yw Doli, Mae'n harddach- mae'n lânach na'r lili ; 'Does enw is nen A swnia'n ddisen Mor bêr gyda'r delyn a Doli. DEWI.-Ow! Ow ! nid yw'n dyner wrth Dewi, 'Does meinir yn delio fel Doli, Er ymbil â hi A'm llygaid yn lli, Parhau yn gildynus mac Doli. - Ymdrechais wneud pob peth i'w boddio, Mi gesglais ei geifr idd eu godro, Dan obaith yn llwyr Y cawn yn yr hwyr Gusanu yn dalu gan Doli. Mae'i mynwes mor wyned a'r eira , — Mae'i chalon mor oered mi wiria' ; Ar f' elor ar fyr Fy nghariad a ' ngŷr, O oered a dèled yw Doli ? G D Tri pheth a dim mwy wy'n ddymuno, Pob bendith i Doli lle delo , Cael gweled ei gwêdd Nes myned i'm mêdd, A marw yn nwylo fy Noli. ALUN.