Tudalen:Dyddgwaith.djvu/103

Gwirwyd y dudalen hon

drygionus ac aflonydd ddigon lawn cyn ddyled ag y bydd llawer yn tybio eu bod. Mynych y methid dyfod yn rhwydd o hyd i gyfrinach y gystrawen anghynefin-amheuid weithiau a oedd raid iddi fod mor anodd !-ond fe ddôi drwy ofal, ac wedi dyfod felly, byddai'n debyg o aros. Tybiwyd, y mae'n ddiau, mai mewn llyfrau yn unig y ceid doethineb o'r fath, ac mai i Roegiaid a Rhufeiniaid yn unig y perthynai, ond fe geid ar dro y gallai hi dalu hefyd mewn bywyd cyffredin. Cof gennyf unwaith glywed ffrae wyllt rhwng dau hogyn, un distaw a'r llall yn tafodi'n ddi-baid. "Cau dy geg, gael i ti ddysgu pryd i'w hagor hi !" meddai dyn oedd yn digwydd mynd heibio ar y pryd. Ar drawiad, cofiais innau ddywediad o'm llyfr Lladin nad oeddwn hyd hynny wedi ei ddeall yn iawn-"Qui non novit tacere nescit loqui." Yr oeddwn mor falch o ganfod yr ystyr a'r tebygrwydd fel y mynaswn ddywedyd hynny wrth rywun, ond cofiais hefyd, y tro hwnnw, am y tewi. A thewais.

O hynny hyd heddiw bu'r hen lyfr yn gyd ymaith cyson. Mynych ddigon y bu gwahaniaeth rhwng y peth a ddywedai ef a'r peth a