Tudalen:Dyddgwaith.djvu/113

Gwirwyd y dudalen hon

YR oeddym eto yng nghanol y dyddiau gogoneddus hynny pan oedd ymchwil o bob math i ddwyn trefn ar bopeth dyrys ac anodd. Ar ôl hwyr ddatblygu diddordeb, a wybu'r Groegiaid oesau lawer yn ôl, yr oedd Gorllewin Ewrop yntau yn ei dro yn brysur iawn yn chwilio hanes yr hen fyd. Wrth wneuthur hynny, diau ei fod yntau'n dangos llawer o osgo'r dyn fydd yn gwisgo het sidan am y tro cyntaf, gan ryw hanner cellwair o'i phlegid, er mwyn galw eich sylw ati a rhoi ar ddeall i chwi ar yr un pryd ei fod ef yn hen gynefin â hi. Ond yr oeddis yn gweithio'n galed, yn chwilio a chwalu, cymharu a dosbarthu, nes bod y peth, wrth i ddyn edrych yn ôl arno bellach, yn edrych fel pe buasai dysg Ewrop yn gwneud ei hewyllys olaf, cyn bod. plwc arall o'r dwymyn oesol yn torri allan ac yn ymosod arni i ddinistrio cymaint ag a ellid o weddillion diwylliant oesau cynt. Er gwaethaf llawer ymdrech a fu eisoes i ddistrywio pob tystiolaeth o'r fath, yr oedd eto yn y byd gryn domennydd wedi eu gadael, ac yr oedd cloddio o bob math yn beth difyrrus, heblaw ei fod am