Tudalen:Dyddgwaith.djvu/115

Gwirwyd y dudalen hon

hir, ymdrech a fu'n ddigon trychinebus, ond na bu bwlch ynddi er hynny.

Yr oeddym ymhlith eneidiau dewr, prydyddion o feddyliau syml, megis rhai o arwyr yr henfyd, rhai a chanddynt weledigaeth, rhai heb ias o wag osgo bywyd y dinasoedd ar eu cyfyl; a'r rhai hynny, gan ddilyn yn ôl astudiaethau manwl y seinofyddion a'r ieithofyddion, unwaith eto'n traethu eu delfrydau tanbaid yng ngeiriau iaith a gadwyd yn fyw ar wefusau gwladwyr tlodion, ymhlith y rhai y cawsai'r prydyddion a'r meddylwyr hyd i'w hathrawon. Ac yr oeddym ninnau wedi dyfod ynghyd i astudio peth nad oedd yn debyg o dalu i ni mewn aur ac arian ar law.

Yr oedd berfau annibynnol, nas diffiniai'r termau cyffredin yn fanwl, rhagenwau mewnol, effeithiau ysgubol hen acen rymus a nodweddion priod-ddull ryfeddol, yn gofyn gweithio'n ddygn drwy'r bore, ac yr oedd darlithoedd y prynhawn yn brawf llym ar sylw a diwydrwydd. Yr oeddym yn byw megis mewn byd cyntefig, ond byd wedi ei drefnu'n fanwl, a cheid tystiolaeth helaeth am arferion a defodau a ddaethai i lawr o'r oesau cyn cof. I rai ohonom, o leiaf, yr oedd hyn oll yn rhywbeth mwy na'r ddysg, yr