Tudalen:Dyddgwaith.djvu/120

Gwirwyd y dudalen hon

feddiant, megis, i ddyn ei hun, bryd arall heb fod yn ddim ond enw? Wrth reswm, yr oedd pawb ohonom wedi adnabod dynion syml, gonest, a garai wlad eu genedigaeth yn gwbl gywir, ond nad oedd ganddynt un syniad am fod yn wladgarwyr yn ystyr ddiweddar y gair, dynion yr oedd eu profiad yn tueddu at eu gadael heb fod yn agored i'r apêl.

Cofiais mai Cymro o Leyn, John Owen wrth ei enw, gan roi adlais i linell a gofnodwyd neu a luniwyd gan Aristophanes, a ddywedodd yn un o'i epigramau:

Illa mihi patria est ubi pascor, non ubi nascor,
Illa ubi sum notus, non ubi natus eram.

Adrodd geiriau John Owen. Distawrwydd. Nid wyf yn meddwl bod neb ohonom eto'n gwbl barod i gymryd John Owen o ddifrif. Gellid cydnabod ei glyfrwch, wrth reswm, neu ddangos y dirmyg uwchraddol hwnnw at y gair mwys, yn ôl fel y digwyddai fod y chwaeth. Cydnabuom y gallasai'r peth a ddywedodd ef apelio at y dyn ion syml, gonest, a adnabuom ni, at ddynion o'r

'πατρὶς γάρ έστι πᾶς᾽ ίν άν πράττη τις εύ.

(" Plutus").