Tudalen:Dyddgwaith.djvu/121

Gwirwyd y dudalen hon

fath yn yr henfyd, yn yr oesau canol, yn nyddiau Thomas Hardy yn Lloegr. Nid yr un peth, yn ddiau, oedd cariad naturiol at wlad â gwladgarwch. Chwarddwyd am ben epigram y Cymro. Cofiwyd a gwnaed eraill tebyg. Eto, pan chwarddo dyn, meddem, oni bydd ef ar y ffordd i weled ochr ddigrif i'w ddifrifwch ei hun? Ai gwir a ddywedodd Siôn Wawd Ysgafn, wedi'r cwbl: Pa beth a fynnem ni, ai'n porthi, ni waeth ym mha le, ai ynteu oddef adfyd gyda ———, gyda phwy? Cofiodd un o'r cwmni am y sôn am neges gwledydd i'r byd a phethau felly, ac ymrithiodd ffenestr siop y gwladgarwch dangos a gorchestion y cenhedloedd etholedig o flaen ei feddwl, nes bod arno las ofn nad oedd un wlad yn y byd a garai. Ond aeth yr ymddiddan yn ddwysach eilwaith.

Er chwerthin am ben rhai o'n gwendidau ein hunain, onid llawn mor ddigrif â'r eiddom oedd gwendidau'r lleill, er iddynt hwy eu galw yn rhywbeth amgen? Beth ddigrifach, gofynnai un, na'r syniad am Rufain gynt, yn ymladd ac yn ymlâdd gyda'r unig amcan dyrchafedig hwnnw—gwareiddio a dyrchafu barbariaid—rhai gonestach